Meri Huws
Mae swydd y Comisiynydd Iaith newydd yn dechrau ym mis Ebrill 2012 yn swyddogol, ond mae Meri Huws eisoes wedi anfon ei llythyr ymddiswyddiad at y Gweinidog Sgiliau ac Addysg.

Heddiw, fe gyhoeddodd Meri Huws y byddai’n gadael ei swydd fel Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gynnar, ar 1 Chwefror 2012, er mwyn paratoi at fod yn Gomisiynydd Iaith cyntaf y Gymraeg.

“Rwy’n edrych ymlaen at ddechrau ar y gwaith hollbwysig hwn ym mis Chwefror – ac at gyfrannu rhagor wrth i’r swyddfa gael ei sefydlu,” meddai Meri Huws.

Bydd cyfrifoldeb y Comisiynydd Iaith newydd yn perthyn yn bennaf i ddatblygu system reoleiddio safonau’r Gymraeg.

Mae disgwyl y bydd y Comisiynydd yn cynghori Llywodraeth Cymru ynglŷn â pholisi iaith a bydd yn gallu ymchwilio i gwynion gan aelodau o’r cyhoedd am fethiannau i gydymffurfio ag unrhyw ddyletswyddau at y Gymraeg.

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru ac â sefydliadau eraill yng Nghymru, a thu hwnt, er mwyn datblygu’r system newydd o safonau yn ymwneud â’r Gymraeg,” meddai.

Bydd ei gwaith o ddydd i ddydd yn cynnwys ffurfio codau ymarfer a sefydlu’r drefn orfodi newydd, monitro perfformiad cyrff yn unol â’u dyletswyddau, ac ymdrîn â chwynion gan aelodau o’r cyhoedd am fethiannau i gydymffurdio â safonau iaith.

Y Cadeirydd dros-dro

Y dyn fydd yn camu i’r adwy am y tro, yn sgil ymddiswyddiad cynnar Meri Huws yn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith, fydd Marc Phillips, sydd wedi bod yn aelod o’r bwrdd ers sawl blwyddyn.

Fe fydd e’n cymryd drosodd gan Meri Huws yn ystod misoedd Chwefror a mis Mawrth 2012, cyn i’r Bwrdd ddod i ben yn swyddogol yn sgil dechrau gwaith y Comisiynydd Iaith.

Yn ôl Leighton Andrews AC mae’n “falch y bydd Marc Phillips, sy’n aelod profiadol o Fwrdd yr Iaith Gymraeg ers sawl blwyddyn, yn camu i mewn fel Cadeirydd dros dro yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

“Bydd Mr Phillips yn cynnig arweiniad ar adeg o newid, a bydd yn sicrhau bod holl weithgareddau’r Bwrdd yn cael eu dirwyn i ben mewn modd priodol,” meddai.

Gallwch ddarllen am argraffiadau Prif Weithredwr presennol Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones, ar swydd y Comisiynydd Iaith, yn Golwg, 1 Rhagfyr.