Carwyn Jones
Fe fydd Cymru yn derbyn cyfanswm o hyd at £216m yn ychwanegol dros y tair blynedd nesaf o ganlyniad i benderfyniadau gwariant Llywodraeth San Steffan, meddai Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones.

Fe fydd £216m o arian cyfalaf ychwanegol yn dod i Gymru o ganlyniad i Ddatganiad yr Hydref y Canghellor, George Osborne.

Dywedodd Carwyn Jones y byddai’n trafod sut i wario’r arian gyda’r Democratiaid  Rhyddfrydol. Roedd y Democratiaid  Rhyddfrydol wedi cyhoeddi cytundeb gyda Llafur i gymeradwyo cyllideb Llywodraeth Cymru wythnos ddiwethaf.

Mae George Osborne hefyd wedi rhoi addewid i weithio gyda Llywodraeth Cymru i wella traffordd yr M4.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol Cheryl Gillan wedi croesawu’r datganiad gan George Osborne heddiw gan ddweud ei bod hi’n gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r £216m ychwanegol i “ehangu cyfleon i greu twf” yn yr economi.

Dywedodd  y byddai’r cynnydd o 5.2% mewn pensiynau yn helpu 600,000 o bensiynwyr yng Nghymru.

“Dyma ddatganiad sy’n cefnogi busnesau, ac mae’n ychwanegiad iachus i’r setliad hael iawn y mae Cymru eisoes wedi ei gael,” meddai Ysgrifennydd Cymru.

Mae hi hefyd yn bosib y bydd cwmniau o Gymru yn gallu elwa o’r cynllun benthyciadau i fusnesau bach, fydd yn gallu cynnig telerau mwy ffafriol i fusnesau fenthyca oherwydd y cynllun newydd gwerth £40 biliwn.

‘Arweiniad’

Wrth gyhoeddi ei ddatganiad heddiw, bu George Osborne yn ceisio argyhoeddi’r Deyrnas Unedig mai gan y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan, y mae’r atebion gorau i’r argyfwng economaidd.

Y Llywodraeth yw’r unig rai all ddarparu’r “arweiniad ar gyfer yr adegau anodd” meddai wrth Dŷ’r Cyffredin heddiw, dim ond i bobol ddysgu “byw o fewn eu gallu.”

Roedd Datganiad yr Hydref gan y Canghellor yn adlewyrchu llawer o’r neges hon heddiw, gyda phwyslais arbennig ar swyddi, pensiynau a thrafnidiaeth.

Un o’r pethau cyntaf iddo’i nodi yn y pecyn mesurau newydd oedd y byddai cyflogau’r sector cyhoeddus yn codi 1% dros ddwy flynedd.

Cyhoeddodd y byddai’r pensiwn gwladol yn godi £5.30 ym mis Ebrill 2011 – i £110.45; ac y byddai credyd pensiwn yn codi £5.35.

Bydd manteision oed-gweithio yn cael eu codi, law yn llaw â lefelau chwyddiant fis Medi diwethaf, o 5.2%. Dywedodd y Canghellor y byddai hynny’n “gynnydd sylweddol yn incwm y bobol dlotaf” yn y Deyrnas Unedig.

O ran trafnidiaeth, fe gyhoeddodd y Canghellor na fyddai’r bwriad i godi 3c ychwanegol ym mhris tanwydd ym mis Ionawr yn cael ei wireddu wedi’r cwbwl, ac y byddai cynnydd mis Awst yn cael ei gyfyngu i 2c.

Roedd hefyd newyddion i blesio teithwyr trenau, gyda’r cynnydd mewn cost tocyn tren nawr yn cael ei gyfyngu i lefel Mynegai Pris y Gwerthwyr (RPI) ac 1%, yn hytrach nag RPI a 3%, fel y bwriadwyd.

Busnesau

O safbwynt busnesau, dywedodd y Canghellor y byddai £200 miliwn ychwanegol nawr ar gael dan y Cynllun Gwarantu Benthyciadau, a fyddai’n defnyddio’r cyfraddau llog isel sydd gan y Llywodraeth i ostwng lefelau benthyciadau i fusnesau bach.

Cyhoeddodd y Canghellor hefyd y fod y Llywodraeth wedi dod i gytundeb gyda dau grŵp cronfa bensiynau Prydeinig i ryddhau £20 biliwn o fuddsoddiad mewn isadeiledd, ac mae gweinidogion wedi rhoi sêl eu bendith ar 35 cynllun trafnidiaeth.

Ymateb llugoer

Ymateb llugoer gafodd y Canghellor i’w ddatganiad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, gyda Llafur yn cyhuddo’r Llywodraeth o orfodi toriadau llym ar bobol, a hynny heb ddod a dim gwelliant i sefyllfa’r economi.

Mae’r mesurau hefyd wedi cael eu beirniadu gan undeb UNSAIN, sydd eisoes yn paratoi at streic dros amodau pensiwn gweithwyr cyhoeddus yfory.

Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol Unsain, mae “twf wedi arafu, ac mae arbenigwyr yn darogan dirwasgiad arall. Beth fydd hi’n cymryd i gael y Llywodraeth i sylweddoli fod Cynllun A yn methu?

“Nid yn unig y mae’r arbedion yma’n atal twf – mae’r modd y mae’n cael ei weithredu hefyd yn golygu bod anghyfiawnder yn tyfu. Mae toriadau’r llywodraeth, a’u hagenda arbedion, yn effeithio ar fenywod, yr ifanc, ac yn defynddio’r rheiny sy’n llai abl i dalu i lenwi’r diffyg ariannol.”