Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi croesawu y cyhoeddiad y bydd Cofnod y Cynulliad yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg.
Mae Comisiwn y Cynulliad wedi penderfynu ailddechrau cyfieithu’r cofnod o fis Ionawr ymlaen.
Bydd y Cofnod yn cael ei gyfieithu drwy dechnoleg Google Translate, ac yna fe fydd cyfieithwyr yn adolygu’r gwaith.
Maen nhw’n amcangyfrif y bydd gwneud hynny’n costio £110,000 y flwyddyn, tua hanner cost talu cyfieithwyr i wneud y gwaith i gyd.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meri Huws, fod cyhoeddiad Comisiwn y Cynulliad heddiw “yn gam pwysig tuag at wireddu’r uchelgais o wneud y Cynulliad Cenedlaethol yn sefydliad gwirioneddol dwyieithog”.
Roedd Bwrdd yr Iaith wedi beirniadu’r Comisiwn am y penderfyniad i roi’r gorau i gyfieithu’r Cofnod gan ddweud ei bod wedi torri ei rheol iaith ei hun.
“Rydyn ni fel Bwrdd yn hynod o falch o glywed fod Comisiwn y Cynulliad wedi dod i’r penderfyniad hwn,” meddai Meri Huws.
“Fe gynhaliom ni ymchwiliad statudol i’r penderfyniad i beidio â darparu Cofnod cwbl ddwyieithog, ac rydym yn croesawu’r ffaith fod aelodau’r Comisiwn wedi gweithredu ar argymhellion yr ymchwiliad hwnnw yn fawr iawn.
“Edrychwn ymlaen at weld effaith y datblygiad hwn ar sefydliadau eraill sy’n gweithredu yn y Gymraeg ac ar ddatblygiad technoleg i gynyddu cofion cyfieithu.
“Diolch i aelodau’r Comisiwn a’r Llywydd am wneud y penderfyniad hwn, ac am drin y Gymraeg yn iaith swyddogol ym mhrif sefydliad democrataidd Cymru.”
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Bethan Williams, eu bod nhw hefyd yn croesawu’r penderfyniad, ond fod y Gymraeg wedi ei drin yn “israddol”.
“Rydyn ni’n croesawu’r newyddion hyn yn rhannol; mae’n dangos bod ymgyrchu miloedd o bobl wedi dechrau dwyn ffrwyth,” meddai.
“Fodd bynnag, mae’n achosi cryn bryder i ni fod y Comisiynwyr wedi gwrthod argymhelliad Bwrdd yr Iaith i ddiogelu mewn statud y bydd yna Gofnod Cymraeg.
“Felly, byddwn ni’n gofyn i ACau gwella’r Bil Ieithoedd Swyddogol yn ystod proses ddeddfu er mwyn cael y sicrhad hynny.
“Mae’r cynlluniau hefyd yn parhau i drin y Gymraeg yn israddol gan fod rhaid aros am bum diwrnod i gael fersiwn Cymraeg, yn groes i’r arfer rhwng 2005 a 2009.
“Yn amlwg, gan fod y Comisiwn wedi tanwario o tua £2 miliwn eleni, nid yw’n anghyfartaledd hwn yn fater o gost ond ewyllys gwleidyddol.”
‘Hygyrch’
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Cynulliad ei fod wedi “ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog” drwy gytuno ar fframwaith newydd a fydd yn rheoli ei wasanaethau dwyieithog.
Rhan hanfodol o’r ymrwymiad hwnnw yw Bil Cynulliad drafft, meddai.
Bydd hwnnw yn rhoi sail statudol gadarn i ddyletswyddau’r Comisiwn i ddarparu gwasanaethau dwyieithog, ac a fydd yn cyflwyno’r trefniadau ar gyfer llunio Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd o dan y fframwaith ddeddfwriaethol arfaethedig, meddai.
Mae’r bil hefyd yn diffinio mewn cyfraith mai Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Cynulliad.
“Rwyf yn hynod falch fod y Comisiwn wedi cadarnhau’r ymrwymiad a wnaed ym mis Gorffennaf eleni,” meddai Rhodri Glyn Thomas, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg.
“Rwyf o’r farn fod y ddeddfwriaeth arfaethedig a’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn cadarnháu ein hawydd i sicrhau bod y Cynulliad yn gosod esiampl yn y maes hwn.
“Drwy ddefnyddio technoleg ar y cyd â chyfieithwyr proffesiynol, rydym yn hyderus y gallwn ddarparu Cofnod o safon o drafodion y Cyfarfod Llawn mewn modd effeithiol a chynaliadwy.
“Bydd y model rydym yn ei ddatblygu hefyd o fudd i sefydliadau eraill sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg. Drwy ddefnyddio technoleg i gyfieithu’r Cofnod, byddwn yn cynyddu cof y system a fydd ar gael i sefydliadau ac unigolion eraill ei ddefnyddio.
“Mae’r penderfyniad hwn yn cadarnhau bwriad Comisiwn y Cynulliad i barhau i ddatblygu gwasanaethau dwyieithog i sicrhau bod gwaith y Cynulliad yn hygyrch i bobl Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.”