Meirion Prys Jones
Mae cael gwared ar y Cofnod dwyieithog o drafodaethau’r Cynulliad wedi arwain at sefyllfa lle mae cyrff eraill yng Nghymru yn gwrthod darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ôl Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Yn 2009 cafodd penderfynodd Comisiwn y Cynulliad, dan Gadeiryddiaeth y Llywydd ar y pryd Dafydd Elis-Thomas, bod gwell ffyrdd o wario arian nag ar drosi trafodaethau Saesneg y Senedd i’r Gymraeg, ei feirniadu’n hallt.

Erbyn hyn mae’r Comisiwn yn edrych ar ffyrdd o adfer Cofnod dwyieithog cyflawn. Ond roedd ofnau yn dilyn y penderfyniad gwreiddiol y byddai cyrff eraill yn dilyn esiampl y Cynulliad.

“Rydan ni wedi gweld arwyddion o hynny,” meddai Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith.

“Bod yna gyrff bellach ddim yn teimlo yr un rheidrwydd i fynd ati [i ddarparu gwasanaethau Cymraeg].”

Mae hefyd yn dweud fod yna berygl i gyrff cyhoeddus beidio cadw at yr addewidion i ddarparu gwasanaethau Cymraeg yn eu Cynlluniau Iaith, yn y cyfnod cyn i’r ‘Safonau’ sydd am gael eu creu gan y Mesur Iaith ddisodli’r drefn bresennol.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 24 Tachwedd