Mae’r dyn sydd wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth pedwar aelod o’r un teulu ar ôl i’r car ddisgyn i gronfa ddŵr yn y canolbarth wedi ymddangos yn y llys am y tro cyntaf.

Mae Gordon Dyche, 24, o Lanidloes, yn wynebu pedwar cyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru’n ddiofal, ar ôl i’r heddlu ei gyhuddo’n swyddogol fis diwethaf.

Roedd Denise Griffith, 55, yn gyrru’r car teuluol a ddisgynnodd i’r gronfa ddŵr ger Llanidloes ym Mhowys fis Ebrill diwethaf.

Hi yn unig a oroesodd y ddamwain a laddodd ei gŵr, ei mam, a’i dau mab-maeth.

Bu’r farw’r pedwar o Bontypridd, Emyr Griffith, 66, Phyllis Hooper, 84, Peter Briscome a Liam Govier, 14, i gyd yn y digwyddiad.

Roedd y teulu ar eu ffordd adref ar ôl treulio’r bore yn ymweld â thref Machynlleth.

Dim ond ymddangosodd byr iawn y bu’n rhai i Gordon Dyche, sy’n fecanic, ei wneud yn Llys Ynadon y Trallwng heddiw.

Cafodd ei ryddhau ar fechniaeth di-amod, gyda gorchymyn i ddychwelyd i Lys y Goron yr Wyddgrug ar 2 Rhagfyr eleni.