Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau wrth gylchgrawn Golwg eu bod yn ymchwilio i dwyll honedig yn ymwneud â degau o filoedd o bunnoedd o arian cyhoeddus, oedd i fod i fynd at helpu milwyr sy’n diodde’ ar ôl bod yn rhyfela.

Cafodd y mudiad ‘Forces for Good’ grant o £125,000 gan Lywodraeth Cymru i sefydlu cartref i gyn-filwyr gyda phroblemau meddyliol ar Ynys Môn, ac i brynu gwesty i goflogi a hyfforddi cyn-filwyr yn Llandudno.

Ddechrau’r wythnos roedd Heddlu’r Gogledd yn cadarnhau wrth Golwg eu bod yn “ymchwilio i dwyll honedig yn ymwneud â ‘Forces for Good’.

“Mae ymholiadau wedi cychwyn felly ni fydda hi’n briodol i wneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd.”

Sefydlydd y mudiad yw Chris O’Neill, dyn oedd wedi bod yn ymgyrchu ers rhai blynyddoedd yn y gogledd i gael help i gyn-filwyr sy’n diodde’ o drawma PTSD.

Mi sefydlodd gangen o ‘Forces for Good’ yn y gogledd, gydag Elfyn Llwyd yn un o’r noddwyr (patrons) oedd yn ei gefnogi.

Ym mis Medi fe ddechreuodd cyfarwyddwyr ‘Forces for Good’ holi am sefyllfa ariannol, a chan nad oedd atebion yn dod i’r fei fe gafodd y cyfrif banc ei rewi ar Fedi 28.

“Os ydy’r honiadau yn wir, mae o’n beth brawychus iawn a siomedig,” meddai Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd sy’n ymgyrchu ers blynyddoedd i gael gwell gofal i gyn-filwyr.

 Y stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg.