Mae nifer y di-waith wedi codi i fwy na miliwn, gyda mwy o bobol rhwng 16 a 24 oed bellach yn ddi-waith am y tro cyntaf ers 1992, yn ôl ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi heddiw.

Yng Nghymru mae 137,000 o bobol yn ddi-waith, cynnydd o 14,000.

Roedd nifer y bobol ifainc yn y DU sy’n ddi-waith wedi codi 67,000 yn ystod y tri mis hyd at fis Medi i 1.02 miliwn.

Mae’r cyfanswm, yr uchaf ers i gofnodion ddechrau 19 mlynedd yn ôl, yn cynnwys 286,000 o bobl mewn addysg llawn amser sy’n chwilio am waith rhan amser.

Mae nifer y di-waith ymhlith pobol rhwng 16 a 24 oed bellach yn 21.9%.

Mae cyfanswm y di-waith wedi codi 129,000 i 2.62 miliwn, y ffigwr mwyaf ers 1994.

Mae ffigurau eraill gan y Swyddfa Ystadegau hefyd yn dangos bod na gynnydd o 5,300 yn nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal diweithdra ym mis Hydref i 1.6 miliwn, cynnydd am yr wyth mis yn olynol.

Mae nifer o undebau ac elusennau wedi  galw ar y Llywodraeth i gyflwyno mesurau brys i fynd i’r afael â diweithdra.

Dywedodd undeb Unsain, bod y Llywodraeth yn “bradychu” pobl ifainc.

Mae’r undeb yn pwyso ar y Llywodraeth i gyflwyno cynllun a fyddai’n hybu twf yr economi gan leihau’r pwysau ar deuluoedd a rhoi cyfle a gobaith i bobl ifainc.

Dywedodd Dave Prentis, ysgrifennydd cyffredinol Unsain: “Mae’r Llywodraeth yn bradychu pobol ifainc ein gwlad. Mae’r  Llywodraeth Doriaidd yn gamblo gyda’u dyfodol am eu bod yn benderfynol o fwrw mlaen gyda thoriadau eang er gwaetha’r gost.”

Ychwanegodd bod cyfleoedd a swyddi i bobl ifainc yn diflannu a “lle bynnag mae nhw’n edrych mae’r drysau’n cau”.

Wrth ymateb i’r ffigurau dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru bod yn rhaid cael mwy o fuddsoddiad mewn addysg, hyfforddiant a datblygiad economaidd i helpu i fynd i’r afael â diweithdra yn enwedig ymhlith pobl ifainc.

Dywedodd llefarydd busnes y blaid Eluned Parrott: “Mae’r ffigyrau yma yn bryderus iawn ac ni ellir eu hanwybyddu. Mae’n rhaid sicrhau bod gan bobl ifainc y sgiliau angenrheidiol a fydd yn eu helpu i ddod o hyd i swyddi unwaith mae nhw’n gadael addysg. Ar hyn o bryd, dydy hynny ddim yn digwydd.”

Yn ol llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, yr AC Alun Ffred Jones, mae’r ffigyrau diweithdra yn cyfiawnhau galwadau Plaid am ragor o weithredu ar yr economi.

“Mae’r ffigyrau newydd yma yn dangos fod diweithdra yng Nghymru wedi bwrw 9.3% – mor wael ag yr oedden nhw yn ystod uchafbwynt y dirwasgiad.”

Rhybuddiodd fod cymunedau Cymru yn wynebu argyfwng cynyddol a bod y cynnydd eithriadol mewn diweithdra ymhlith yr ifanc yn golygu fod problemau’n cael eu meithrin ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd hefyd fod y ffigyrau’n dystiolaeth pellach fod Llafur wedi llaesu dwylo ers dod i  rym ym mis Mai, “gan adael i’r argyfwng ddatblygu a dyfnhau.”