Gwefan y cyngor
Mae ymgyrchydd wedi beirniadu gwefan Cyngor uniaith Saeneg ac wedi dweud bod ymdrech Bwrdd yr Iaith i fynd i’r afael â’r sefyllfa yn “fethiant llwyr”.

Ers o leiaf pum mlynedd, mae Jamie Bevan, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi clywed addewidion y byddai fersiwn Cymraeg o  wefan Cyngor Merthyr Tudful  ar gael.

Mae neges ar wefan newydd y Cyngor yn dweud y canlynol –

‘Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir, er hynny, mae ein fersiwn Cymraeg o’n gwefan gorfforaethol yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, ac ni fydd ar gael nes yr hysbysir yn wahanol.

‘Mae dogfennau’r cyngor ar gael yn Gymraeg os gofynnir felly cysylltwch â’n Canolfan Gofal Cwsmeriaid os gwelwch yn dda, a fydd yn gallu eich cynorthwyo.’

‘Addo ac addo…’

“Maen nhw, am bum mlynedd nawr, wedi bod yn addo ac addo gwefan Gymraeg,” meddai Jamie Bevan, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth Golwg360. “Maen nhw’n lansio gwefan newydd yn y mis diwethaf a does dim opsiwn Cymraeg na dim.

“Maen nhw’n torri eu cynllun iaith. Mae’n fethiant llwyr o ran Bwrdd yr Iaith. Maen nhw wedi gadael i hyn fynd ymlaen am hanner degawd a dydyn nhw heb wneud dim yn ei gylch,” meddai Jamie Bevan.

“Fel rhywun sy’n byw ym Merthyr ac wedi bod yn rhan o’r trafodaethau – mae’r teimlad yn un o rwystredigaeth lwyr. Dw i’n cyhuddo’r Cyngor o ddweud celwydd – dro ar ol tro. Maen nhw wedi bod yn addo ers 5 mlynedd,” meddai.

‘Mynnu gorchymyn’

Dywedodd fod y “dystiolaeth yno o flaen llygaid Bwrdd yr Iaith ar y wefan” a’u bod yn torri eu cynllun iaith.

“Maen hen bryd i Fwrdd yr Iaith drefnu a chynnal ymchwiliad i mewn i weithgareddau Cymraeg Cyngor Merthyr a mynnu gorchymyn gan y Gweinidog i gydymffurfio gyda Deddf 93.”

Dywedodd Llefarydd ar ran Bwrdd yr Iaith Gymraeg: “Unwaith y sylwom fod gwefan newydd Cyngor Merthyr yn uniaith Saesneg, fe gysylltodd y Bwrdd â Phrif Weithredwr y Cyngor yn syth i ofyn am eglurhad o’r sefyllfa. Rydym yn disgwyl ymateb ar hyn o bryd. Byddwn yn ystyried ymateb y Cyngor cyn penderfynu ar gamau pellach.

“Mae’r sefyllfa bresennol yn gwbl annerbyniol. Mewn cyfnod pan fo nifer cynyddol o wasanaethau yn cael eu darparu ar-lein, mae’r digwyddiad diweddaraf hwn yn codi cwestiynau ynghylch ymrwymiad y Cyngor i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg.”

Malan Wilkinson