Bydd gwasanaethau Sul y Cofio yn cael eu cynnal ar draws Cymru, ac ar draws Prydain, heddiw i gofio am aelodau’r lluoedd arfog sydd wedi marw mewn rhyfeloedd a gwrthdrawiadau ar draws y byd.

Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fydd yn arwain y cofio ym Mharc Cathays, Caerdydd.

Meddai Mr Jones, “Nid yw’r genhedlaeth wnaeth ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf gyda ni bellach, ond er eu bod nhw wedi ein gadael, ni allwn anghofio am yr aberth y maen nhw wedi ei wneud.”

Y Frenhines fydd yn arwain y cofio mewn gwasanaeth yn y Gofadail yn Whitehall. Bydd Y Prif Weinidog, David Cameron, hefyd yn bresennol ynghyd ag arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, ac arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband.

Bydd Tywysog Cymru hefyd yn cymryd rhan yn y gwasanaeth.

Roedd y gantores o Gymru, Katherine Jenkins, yn un o’r rhai a oedd yn cymryd rhan yng Nghymanfa’r Cofio yn Neuadd Albert yn Llundain neithiwr. Mae’r Gymanfa yn cael ei chynnal bob blwyddyn dan ofal y Lleng Prydeinig.