Orig Williams
Bydd cofeb i’r reslar, rheolwr ac awdur, Orig Williams yn cael ei dadorchuddio prynhawn ma yn y pentref lle’i magwyd, Ysbyty Ifan.

Ei ferch, yr actores, gantores a’r ddawnswraig Tara Bethan fydd yn dadorchuddio’r gofeb.

Bydd y seremoni hefyd yn cynnwys datganiadau gan Hogia Sbyty, disgyblion yr ysgol leol a’r Clwb Ffermwyr Ifanc lleol.

Anrhydeddwyd enw amlwg arall o Gymru, yr actor Richard Burton, mewn seremoni i ddadorchuddio place yn nodi’r tŷ lle bu’n byw yn Hampstead, Llundain gyda’i wraig gyntaf, yr actores Sybil Williams a oedd yn dod o’r Rhondda.

Mi gafodd y plac ei ddadorchuddio gan yr actor o Bort Talbot, Michael Sheen, sydd ar hyn o bryd yn chwarae rhan Hamlet yn theatr yr Young Vic yn Llundain.  Hamlet oedd un o hoff rannau Burton.