Mae Cymdeithas y Cymod yng Nghymru wedi dweud wrth Golwg360 yr hoffent weld gwleidyddion, peldroedwyr Cymru, ac aelodau staff y BBC a yn gwisgo’r pabi gwyn eleni.

Daw hyn wedi i FIFA wneud tro pedol ar y penderfyniad i wahardd peldroedwyr Cymru rhag gwisgo’r pabi coch yn ystod eu gêm yn erbyn Norwy ddydd Sadwrn.

Roedd y corff sy’n rheoli pêl-droed rhyngwladol wedi gwahardd timau pêl-droed Cymru a Lloegr rhag  gwisgo’r pabi coch ar eu crysau ddydd Sadwrn, ddiwrnod cyn Sul y Cofio. Ond mae nhw bellach wedi dweud y gall y chwaraewyr wisgo’r pabi coch ar fand du ar eu breichiau.

“Mae’r pabi coch i gofio milwyr Prydeinig a fuodd farw yn y rhyfeloedd. Ac yn bendant mae’n cael ei gysylltu gyda phethau milwrol. Mae’n rhoi rhyw statws i bethau milwrol,” meddai Marika Fusser, cydlynydd Cymdeithas y Cymod yng Nghymru.

Prif neges y Gymdeithas yw cofio “pawb fuodd yn dioddef mewn rhyfel, neu sy’n dal i wneud.” Mae’r Gymdeithas yn dadlau bod eisiau “dysgu’r wers o beidio mynd i ryfel”.

“Dydy rhyfel yn ateb dim – mae’n creu mwy o ddioddefaint,” meddai Marika Fusser cyn dweud bod ffyrdd eraill o gyd fyw, sy’n ddi-drais – gan gynnwys trafod.

‘Y tlawd’

“Mae’r pabi gwyn eisiau cofio am bawb fuodd farw neu yn dioddef mewn rhyfeloedd. Rydan ni’n gweld bod pobl gyffredin yn cael eu lladd, a hefyd y milwyr ar bob ochr sy’n cael eu gwthio i mewn i’r peth am nad ydyn nhw’n gallu dod o hyd i swydd arall,”  meddai.

Yn ôl Marika Fusser mae’n rhaid i’r Llywodraeth edrych ar ôl milwyr sy’n dod nôl o ryfel.

“Os dydyn nhw ddim yn marw, maen nhw’n dod adref a dydyn nhw ddim yn cael help gan y Llywodraeth. Dyna pam mae’r pabi coch yn cael ei werthu oherwydd bod y Llywodraeth yn defnyddio’r bobl ifanc ‘ma. Pan maen nhw wedi gorffen dydyn nhw ddim eisiau gwybod ac felly mae angen elusen i’w helpu nhw. Os mai gyrru pobl i ryfel maen nhw’n wneud – mae eisiau gofalu amdanyn nhw wedyn.

“Rydan ni eisiau cofio am bawb sydd wedi dioddef. Tydi rhyfel byth yn gwneud lles i neb. Dydi o byth yn ateb problem  – mae jest yn creu mwy a mwy o ddioddef.”

Pabi coch – rhywbeth ‘Cenedlaethol’

Yn ôl Marika Fusser, mae’r pabi gwyn yn symbol o heddwch tra bod y pabi coch yn “cefnogi militariaeth”.

“Os ydych chi’n gwisgo pabi gwyn, rydach chi’n dweud nad ydych chi eisiau rhyfel,” meddai.

“Dw i ddim yn licio gweld staff y BBC yn gwisgo’r pabi coch. Mae’n rhoi’r  neges, ‘rydan ni’n cefnogi militariaeth’ – er nad dyna pam maen nhw’n cael eu gwerthu. Maen nhw’n cael eu gwerthu i godi arian at bobl sydd wedi dod yn ôl o ryfel efo ryw niwed neu’i gilydd.

“Ond, mae neges militariaeth yn dod i mewn iddi a dw i bendant yn siomedig gyda hynny.”

Mae Cymdeithas y Cymod yng Nghymru yn gwerthu pabi gwyn gyda’r gair ‘Hedd’ arnynt yng Nghymru.

Mae Cymdeithas y Cymod yng Nghymru yn rhan o fudiad heddwch rhyngwladol mae ei haelodau’n gwrthod rhyfel a thrais ar sail eu crefydd. Mae’r Gymdeithas yn ymgyrchu dros heddwch yn rhyngwladol ac yma yng Nghymru.