Mae bron i 9,000 o fabanod yng Nghymru yn byw mewn teuluoedd lle mae o leiaf un rhiant yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, camddefnydd o gyffuriau neu alcohol neu’n ymwneud â thrais domestig.

Dyna ddadansoddiad newydd sydd wedi ei gyhoeddi heddiw gan elusen yr NSPCC.

Heddiw, bydd NSPCC Cymru yn gofyn i Aelodau Cynulliad yng Nghymru gydnabod pa mor fregus  yw babanod drwy gefnogi ei ymgyrch ‘Mae Pob Baban yn Cyfri’.

Dywed yr elusen y gall rhieni sy’n cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl, neu drais domestig, neu sy’n cael problemau gyda alcohol neu gyffuriau, ei chael yn anodd i ofalu am eu babanod.

Er nad yw pob baban yn y teuluoedd hyn yn cael niwed, mae’r dystiolaeth yn dangos eu bod nhw mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso, yn ôl yr elusen. Mae mwy na hanner y galwadau i Llinell Gymorth yr NSPCC yn ymwneud â phryder ynghylch plant mewn teuluoedd gyda’r problemau hyn.

‘Pryder mawr’

Dywedodd Des Mannion, Pennaeth Gwasanaethau’r NSPCC yng Nghymru:  “Mae babanod wyth gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd nag unrhyw grŵp oedran arall o blant, felly mae’n bryder mawr iawn i ni y gall yr aelodau mwyaf bregus  a diamddiffyn yn ein cymdeithas ni fod mewn perygl oherwydd diffyg cefnogaeth.

“Mae tystiolaeth yn dangos mai ymyrraeth gynnar yw’r dull gorau o weithredu; gall ddileu’r risg o gam-drin neu esgeulustod yn y dyfodol. Mae hefyd yn gwneud synnwyr economaidd da.  Mae buddsoddi mewn atal niwed yn ffordd fwy effeithiol o wario arian na cheisio rhoi trefn ar fywydau’r plant yn ystod y blynyddoedd ar ôl i’r cam-drin ddigwydd.”

Mae’r ystadegau yn dangos bod un o bob 5 baban yn byw mewn teulu lle mae un rhiant, neu’r ddau, yn wynebu risg uchel o ddioddef o iselder neu bryder difrifol; bod un o bob 40 mam ac un o bob 9 tad i fabanod o dan flwydd oed yn yfed lefelau peryglus o alcohol; a bod un o bob 35 mam i fabanod o dan flwydd oed wedi profi trais gan bartner.

Cefnogaeth

Dywed yr NSPCC yng Nghymru bod yn rhaid i’r gefnogaeth i’r babanod sy’n byw yn y cartrefi hyn fod yn brydlon ac yn effeithiol. Pan fydd cam-drin neu esgeulustod yn digwydd, mae gwaith ymchwil yn dangos bod datblygiad babanod yn gallu dioddef. Gall effaith diffyg rhyngweithio iach gyda rhieni a gofalwyr eraill yn ystod blwyddyn gyntaf eu bywyd fod yn ddwys iawn a gall achosi niwed tymor hir i iechyd corfforol a meddyliol, meddai’r elusen.

Er bod strategaeth gwasanaethau mamolaeth newydd Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod dod yn rhiant yn ddigwyddiad hynod emosiynol, cred NSPCC Cymru bod rhaid i hyn arwain at gefnogaeth effeithiol i rieni, yn arbennig y rhai sydd fwyaf bregus.

Cyflwyno mesurau

Fel rhan o’r ymgyrch, bydd yr elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod babanod yn cael eu gwarchod a bod rhieni’n cael eu cefnogi.

Mae nhw’n awgrymu mesurau a fyddai’n cynnwys  sicrhau bod yr ymrwymiad i ddiogelu drwy ymyrraeth gynnar yn parhau a bod buddsoddiad yn y blynyddoedd cynnar yn cael ei gryfhau;  cydnabod rôl allweddol y gwasanaethau bydwragedd ac ymwelwyr iechyd cyffredinol mewn sicrhau diogelwch babanod a datblygu a gweithredu strategaeth i dynnu sylw at ba mor fregus  yw babanod ac i atal anafiadau pen bwriadol.

Ochr yn ochr â’r cais am gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae’r NSPCC yn lansio casgliad o raglenni newydd i brofi’r ffyrdd gorau o ddiogelu babanod a chefnogi rhieni.  Bydd yr NSPCC yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid mewn awdurdodau lleol ac mewn elusennau eraill er mwyn cyflwyno’r gwaith hwn.