Bydd cyflogau Aelodau Cynulliad yn cael eu rhewi am bedair mlynedd, a bydd  nifer yr ACau sy’n gallu hawlio tâl am lety yng Nghaerdydd yn cael ei haneru, yn ôl argymhellion y panel sy’n adolygu taliadau ym Mae Caerdydd.

Yn ôl adroddiad cyntaf y Bwrdd Taliadau annibynnol a gyhoeddwyd heddiw, gallai’r newidiadau arbed £2 filiwn i’r Cynulliad dros y bedair blynedd nesaf.

Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad y dylai taliadau i Aelodau Cynulliad fod yn “deg ac yn addas i’r diben.”

Yn ôl George Reid, Cadeirydd y Bwrdd, mae angen i daliadau Aelodau Cynulliad “sicrhau gwerth am arian. Dylai hefyd adlewyrchu’r cyfrifoldebau hyn mewn cyd-destun Cymreig.”

Cafodd y Bwrdd Taliadau annibynnol ei sefydlu yn 2010 er mwyn pennu cyflogau a lwfansau Aelodau’r Cynulliad a’u staff.

Mae’r bwrdd eisoes wedi dechrau ar y gwaith o adolygu taliadau ers mis Mawrth eleni, ac mae eu hargymhellion ar newidiadau i gyflogau ychwanegol arweinyddion gwrthbleidiau, cadeiryddion pwyllgorau, Comisiynwyr a chwipiau eisoes wedi cael eu cyflwyno.

Y newidiadau

Yn ôl adroddiad y bwrdd, mae angen i gyflog Aelodau’r Cynulliad gael ei rewi ar £53,852 am bedair blynedd, a chyflog staff y Cynulliad yn cael ei rewi nes 2013, gan ddiddymu taliadau bonws. Dylai nifer yr ACau sydd â hawl i gael llety yng Nghaerdydd hefyd gael ei dorri, o’r 51 presennol i 25, a dim ond rhent fydd hawl ganddyn nhw ei hawlio am y tai yma.

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud na ddylai ACau sy’n rhoi’r gorau i’w seddi ar eu liwt eu hunain dderbyn grant i’w cynnal wedi eu cyfnod yn y Cynulliad, fel bod hwnnw’n cael ei gadw ar gyfer ACau sydd wedi colli eu seddi mewn etholiad.

Ond bydd y lwfans sydd ar gael ar gyfer staff cymhorthol yn cynyddu i £89,000.

“Mae’n rhaid iddynt ddeddfu, ac mae’n rhaid iddynt gynrychioli’r sawl a’u hetholwyd, a’u pleidiau. Dylai eu taliadau sicrhau eu bod yn gallu gwneud hynny mewn modd teg a thryloyw,” meddai George Reid.

Dywedodd hefyd ei bod hi’n mynd i “gymryd amser i newid y diwylliant” yn y Cynulliad, ond bod eu harolygon cynnar yn dangos bod ACau yn dangos parodrwydd i ymateb i’r “her sydd wedi codi o ganlyniad i’r Refferendwm, sef bod yn ddeddfwyr llawn.”