Mae Prif Weinidog Cymru wedi bod yn talu teyrnged i ddynion a gwragedd y Lluoedd Arfog sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd, yn ystod gwasanaeth arbennig heddiw.
Bu Carwyn Jones yn gosod torch yn agoriad swyddogol Maes Coffa Cymru yng Nghastell Caerdydd a darllenodd eiriau o gerdd Laurence Binyon, ‘For The Fallen’.
Dywedodd Carwyn Jones ei bod yn “ddyletswydd” ar bob un ohonom i gofio’r rheini a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu yn y Lluoedd Arfog.
“Ni ddylem fyth anghofio eu haberth, ac mae’r safle hwn bellach yn fan canolog i Gymru gyfan eu coffáu.
“Mae eu coffáu yn y modd hwn yn gyfle i gydnabod rhyfeloedd y gorffennol a hefyd y rhyfeloedd sy’n digwydd mewn gwahanol rannau o’r byd ar hyn o bryd. Mae dynion a menywod o Gymru yn gwasanaethu heddiw gyda’r Lluoedd Arfog mewn lleoedd fel Affganistan. Ni ddylem anghofio’r straen a’r pwysau y maen nhw a’u teuluoedd yn eu hwynebu bob dydd”.
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cymryd rhan yn y Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol a fydd yn cael ei gynnal wrth Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru ddydd Sul nesaf.