Carwyn Jones
Mae masnach yng Nghymru yn dioddef oherwydd yr argraff wael y mae toriadau gan Lywodraeth San Steffan yn ei roi o Brydain i weddill y byd.

Dyna neges Carwyn Jones heddiw, wrth iddo fynd i gwrdd ag arweinwyr busnesau Cymru yng Nghaerdydd, er mwyn trafod sut mae achub economi Cymru.

“Yn ystod fy ymweliad masnach ac addysg i China yn ddiweddar, roeddwn i’n bryderus iawn i glywed fod nad oedd llawer yn China yn gweld Prydain fel lle atyniadol i gynnal busnes.”

Yn ôl Prif Weinidog Cymru mae nifer o ffactorau wedi cyfrannu at yr argraff negyddol yma, gan gynnwys y terfysgoedd yn Lloegr dros yr haf, ond dywedodd Carwyn Jones mai toriadau San Steffan oedd fwyaf ar fai.

“Maen nhw’n credu bod y Deyrnas Unedig yn dilyn agenda o doriadau a allai gael effaith negyddol ar benderfyniadau i fuddsoddi yng Nghymru.”
Yn ôl Carwyn Jones, sydd yn cwrdd â chynrychiolwyr o’r sector breifat heddiw er mwyn trafod sut i hyrwyddo busnesau yng Nghymru yn wyneb y caledi economaidd, mae’n rhaid i Lywodraeth San Steffan weithredu er mwyn newid yr enw gwael y maen nhw wedi ei roi i ragolygon masnachol Cymru.

‘Diffyg hyder’
“Yr wythnos hon, rydw i wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, David Cameron, i ofyn iddo fynd i’r afael â’r argraff hyn, ac â diffyg hyder y byd busnes rhyngwladol ym Mhrydain, ar unwaith.”
Dywedodd Carwyn Jones y gallai diffyg gweithredu olygu bod unrhyw waith y mae’r Llywodraeth yng Nghymru yn ei wneud yn cael ei guddio dan gwmwl y toriadau yn San Steffan.
“Nid yn unig y mae hi’n niweidiol i hyder yn y Deyrnas Unedig, ond gallai rwystro’r gwaith yr ydyn ni’n ei wneud yng Nghymru wrth geisio denu masnach o safon uchel a chyfleon busnes tramor i ni.
“Mae’n rhaid i ni sicrhau fod y Deyrnas Unedig yn cael ei gweld mewn golau mwy cadarnhaol yng ngwledydd tramor nag sydd ar hyn o bryd.”