Jack Widdowson yn perfformio
Mae tad dawnsiwr ballet wedi apelio am wybodaeth am ymosodiad sy’n golygu fod y dyn 19 oed yn brwydro am ei fywyd yn Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd.

Roedd rhywun wedi ymosod ar Jack Widdowson yng nghanol y ddinas yn oriau mân bore Sul ac mae bellach yn adran ofal dwys yr ysbyty.

Fe ddywedodd Heddlu De Cymru fod yr ymosodiad yn “ddychrynllyd” ac mae gan y dawnsiwr ifanc addawol anafiadau drwg i’w wddw.

‘Ffieiddio’

Roedd Jack Widdowson o Gaerfaddon yn ymweld â’i frawd sy’n fyfyriwr yng Nghaerdydd ac mae’n ymddangos bod yr ymosodwr wedi dwyn ei ffôn symudol.

“R’yn ni i gyd wedi ein ffieiddio gan yr ymosodiad direswm, treisgar yma,” meddai ei dad, Julian Widdowson sy’n dod o Gaerdydd yn wreiddiol.

“Mae Jack yn berson difyr iawn sy’n cael ei garu’n fawr gan bawb sy’n ei adnabod ac yn gweithio gydag e.”