Ieuan Wyn Jones
Mae Ieuan Wyn Jones wedi cyhuddo Prif Weinidog Cymru o fethu a gweithredu ar yr economi yng Nghymru.

Wrth herio Carwyn Jones yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru fod y Llywodraeth Lafur wedi “gwneud dim am yr economi” ers dod i rym ym mis Mai eleni.

“Yr unig gasgliad alla’ i ei gymryd o’ch diffyg gweithredu chi yw eich bod chi wedi penderfynu eistedd yn ôl, gadael i’r creisis economaidd wneud ei waethaf, a rhoi’r bai ar y Toriaid am bopeth sydd wedi digwydd,” meddai Ieuan Wyn Jones.

Wrth siarad â Golwg 360 cyn y sesiwn holi’r prynhawn ’ma, dywedodd Ieuan Wyn Jones fod angen i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth ar unwaith neu wynebu sefyllfa o ddiweithdra a fydd mor wael â’r 1980au.

“Ein dadl ni ydy ‘gwnewch rhywbeth’. Ond hyd yma dydyn nhw ddim wedi gwneud dim byd.”

‘Gwneud dim’ yn bolisi Prydeinig

Yn ôl Ieuan Wyn Jones, mae “gwneud dim byd” wedi troi’n bolisi i’r Blaid Lafur ar draws Prydain erbyn hyn.

“Mae  ’na gyfres o bethau yng Nghymru rwan: rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth, lle nad ydan ni wedi gweld unrhyw fath o ddeddfwriaeth eto, rhaglen lywodraethol lle does yna ddim targedau; a chyllideb sydd ddim yn cymryd i ystyriaeth y ffaith fod yr economi mewn twll,” meddai Ieuan Wyn Jones wrth Golwg 360.

“Felly yr unig ddehongliad allwn ni ddod iddo fo ydy bod hyn yn gwbl fwriadol. Nad ydyn nhw eisiau gwneud dim byd, fel ei bod nhw wedyn yn gallu beirniadu’r Toriaid yn Llundain am beidio gwneud dim byd.

“Rydan ni’n meddwl bod hyn nid yn unig yn rhan o gynllun Llafur yng Nghymru ond yn rhan o gynllun Llafur yn y Deyrnas Gyfunol: sef beirniadu’r Toriaid. Felly dydy o ddim yn help iddyn nhw fod yna bethau eraill yn digwydd oherwydd fyddai hynny yn golygu nad ydyn nhw’n gallu beio’r Toriaid.”

Wfftio’r honiadau

Ond wfftio’r honiadau hyn wnaeth Carwyn Jones heddiw, gan fynnu fod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gorau i roi hwb i’r economi.

“Y gwirionedd yw fod swm sylweddol o arian wedi cael ei roi, £1.3 biliwn, i brosiectau cyfalaf yn y flwyddyn ariannol hon. Ac fe fydd rhagor o gyhoeddiadau yn cael eu gwneud ddiwedd y mis o safbwynt prosiectau a fydd yn cael eu hariannu yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod,” meddai Carwyn Jones.

Ond dywedodd Ieuan Wyn Jones fod prosiectau buddsoddi’r Llywodraeth i gyd wedi cael eu llunio fel rhan o Lywodraeth Cymru’n Un, rhwng Llafur a Phlaid Cymru, cyn yr etholiad diwethaf.

Ond dywedodd Carwyn Jones ei bod hi’n “lwyddiant yn ei hun ein bod ni wedi llwyddo i wireddu’r rhaglenni cyfalaf a gytunwyd, do, cyn yr etholiad… o ystyried lefel y toriadau ry’n ni’n eu hwynebu.”

Mynnodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud “gymaint ag y gallwn ni i warchod pobol Cymru yn erbyn y toriadau sydd wedi eu rhoi arnyn nhw.”