Mae Heddlu De Cymru yn dweud eu bod nhw wedi gweld gostyngiad sylweddol yn  nifer y galwadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol ar noson tân gwyllt eleni.

Yn ôl Heddlu De Cymru, bu gostyngiad o 19% yn nifer y galwadau i gwyno am ymddygiad gwrth-gymdeithasol, o’i gymharu â 2010.

Dywedodd yr heddlu fod hyn yn dangos llwyddiant y bartneriaeth rhwng nifer o gyrff cymunedol ar draws de Cymru, sydd wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i daclo trafferthion Noson Calan Gaeaf a Thân Gwyllt dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r ymgyrch, a lansiwyd yn ne Cymru chwe blynedd yn ôl, yn ymgyrch Cymru-gyfan sy’n ceisio lleihau’r achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, a chodi ymwybyddiaeth yn gymunedol yn ystod adegau Calan Gaeaf a Thân Gwyllt.

Yn ôl y Dirprwy Brif Gwnstabl Julian Kirby, mae’r bartneriaeth wedi golygu “cyd-weithio effeithlon rhwng Heddlu De Cymru a’u partneriaid er mwyn sicrhau a gwarchod cymunedau yn ystod cyfnod dathlu Calan Gaeaf a Thân Gwyllt.

“Llynedd fe welwyd gostyngiad sylweddol yn  nifer yr achosion gwrthgymdeithasol yn ardal Heddlu De Cymru. Mae’r llwyddiant hwnnw wedi parhau yn 2011, o’u cymharu â ffigyrau’r llynedd, gydag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn disgyn 9% ar noson Calan Gaeaf, ac 19% ar Noson Tân Gwyllt.”