Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y miliynau o bunnoedd sydd wedi cael eu gwario ganddyn nhw ar dechnoleg gwybodaeth, marchnata ac ymgynghorwyr rheoli yn ystod y pum mis diwethaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Golwg 360 fod canran uchel o’r £42 miliwn y maen nhw wedi ei wario ar dechnoleg gwybodaeth, marchanata ac ymgynghorwyr ers dod i rym wedi mynd ar ddarparu band-llydan i gyrff fel ysgolion, ysbytai, meddygynfeydd a gwasanaethau tân a’r heddlu.
“O’r £42 miliwn, mae £39 miliwn wedi ei wario ar dechnoleg gwybodaeth,” meddai’r llefarydd wrth Golwg 360, “ac o’r £39 miliwn, mae 44% o hwnnw wedi mynd ar ddarparu band llydan i’r sector cyhoeddus, nid ar gyfrifiaduron i weithwyr sifil.”
Mae’r Llywodraeth wedi cael ei beirniadu’n hallt ers iddi ddod i’r amlwg o ffigyrau gwariant misol Llywdoraeth Cymru ers Ebrill 2011, fod £42 miliwn wedi cael ei wario ar dechnoleg gwybodaeth, marchnata, ac ymgynghorwyr rheoli.
Ond mae’r Llywodraeth yn mynnu fod eu rhaglen doriadau, ‘Ymdopi gyda Llai’, yn mynd yn y cyfeiriad cywir.
“Rydyn ni eisoes wedi llwyddo i ostwng 50% o’n gwariant ar ymgynghorwyr allanol ers 2010, ” meddai’r llefarydd.
‘Angen mwy o atebolrwydd’
Mae’r Aelod Cynulliad Peter Black wedi dweud wrth Golwg 360 fod y ffigyrau diweddaraf yn dangos fod angen mwy o atebolrwydd ar wariant Llywodraeth Cymru.
“Mae hyn yn gyfanswm mawr iawn i fod yn ei wario – yn enwedig pan allai’r un cyfanswm fod yn talu am bedair ysgol gynradd newydd sbon,” meddai.
“Mae dau beth yn codi o’r ffigyrau hyn: mae angen i’r Llywodraeth gyfiawnhau’r holl wariant hyn; ac mae angen i’r Llywodraeth ddarparu’r math yma o fanylder ar eu Cyllideb Ddrafft.
“Mae angen atebolrwydd cyn, nid ar ôl, i’r arian gael ei wario,” meddai Peter Black wrth Golwg 360.