Bethan Jenkins
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r Gemau Olympaidd heddiw gan ddweud bod rôl Cymru yn y Gemau yn  “siomedig” a “thruenus”.

Daeth sylwadau’r blaid wrth iddi gael ei datgelu heddiw y bydd y ffagl Olympaidd yn ymweld â dros 80 o leoliadau gwahanol yng Nghymru fis Mai 2012.

Bydd dros 95% o’r boblogaeth o fewn deg milltir i’r ffagl Olympaidd flwyddyn nesaf wrth iddi wneud ei ffordd i Stadiwm Olympaidd Llundain.

Ond dywedodd Bethan Jenkins AC, llefarydd Plaid Cymru ar iaith, treftadaeth a chwaraeon wrth Golwg360 bod rôl Cymru yn ‘druenus’.

“Rwy’n falch bod Cymru wedi cael ei gynnwys yn llwybr y ffagl Olympaidd. Serch hynny, mae ein rhan ni  yn y gemau yn druenus,” meddai.

“Roedd gennym lawer o gyfleusterau a allai fod wedi cael eu defnyddio. Byddai wedi dod â manteision sylweddol i’r wlad drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr – mae’r ganolfan beicio mynydd yng Nglyncorrwg yn fy rhanbarth i  yn un enghraifft wych – ac eto maent wedi cael eu hanwybyddu i raddau helaeth. I rwbio’r halen yn y briw, rydym yn cael ein hamddifadu o arian ôl-ddilynol Barnett.

“Mae Llywodraeth y DU wedi anwybyddu Cymru unwaith eto, a Chymru sydd ar ei cholled cyn i’r Gemau Olympaidd hyd yn oed ddechrau,” meddai.

‘Trueni’

“Mae’n beth da bod y ffagl yn dod i Gymru. Ond, mae’n drueni nad yw Cymru wedi ei dynnu i mewn i raddau llawer iawn mwy i mewn i’r Gemau Olympaidd yn  enwedig o ran y cyfleoedd i fusnesau. Siomedig iawn yw hynny,” meddai Rhodri Glyn Thomos, AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr  wrth Golwg360.

“A hefyd, o ran lleoliadau, roedd Cymru yn cynnig lleoliadau gwych i bethau fel y seiclo mynydd ayyb ac eto i gyd fe anwybyddwyd hynny a chreu lleoliad arbennig yn ne ddwyrain Lloegr.”

Dywedodd ei fod yn “siomedig” ar y cyfan oherwydd bod Cymru “wedi cyfrannu gymaint o arian tuag at y gemau Olympaidd trwy’r loteri a thrwy ddulliau uniongyrchol.”

“Bach iawn o gyfle mae Cymru fel gwlad wedi cael i gyfrannu tuag at y Gemau Olympaidd ac i elwa ohono,” meddai cyn dweud mai  bai’r trefnwyr yw hynny yng nghyd-destun y lleoliadau.

“Roedd ’na, yn ôl bob sôn, gyfle wedi bod i gwmnïau o Gymru i dendro ar gyfer y gwaith ac ychydig iawn o gwmnïau sydd wedi bod yn llwyddiannus.

“Dw i ddim yn credu bod ’na ymdrech gwirioneddol wedi’i wneud gan drefnwyr y gemau i sicrhau bod nhw’n gemau ar gyfer y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Mae’n ymddangos i mi mai De Ddwyrain Lloegr sy’n mynd i elwa ohono fe a Llundain yn benodol.”

‘Cymru ddim yn elwa’

Yn ôl Alun Ffred Jones, AC nid yw Cymru am elwa yn economaidd o’r Gemau, er bod ychydig o’r gemau pêl droed yn dod i Gaerdydd.

“Y peryg ydi y bydd y bobl sy’n dod i Lundain eisiau gweld y Gemau Olympaidd a ddim eisiau mynd i unlle arall. Ond, mae cyfle i Croeso Cymru sicrhau bod newyddiadurwyr yn dod i Gymru i weld beth sydd yma – ac yna’n sgwennu amdani ar ôl mynd adref,” meddai.

“O ran y ffagl, cyfle i gymunedau i ddod at ei gilydd ydi o ac i godi diddordeb yn y Gemau. Gawn ni weld am hynny. Siwr gen i y bydd rhai canolfannau yn gwneud ymdrech fawr efo cefnogaeth y Cyngor lleol. Ond, does dim budd economaidd yn mynd i  ddod o hynny.

“Mae ’na dwyll yng nghanol hyn. Mae’r Olympics yn dod bob amser i ddinas – ddim i’r wlad. Fe drïodd y Llywodraeth Lafur wneud ryw ffỳs fawr fod y digwyddiad yn mynd i fod yn fawr i Brydain i gyd. Ond yn economaidd, dydi hynny ddim yn wir a dyna pam rydan ni wedi dadlau y dylai rhywfaint o’r arian Barnett gael ei ddefnyddio i rannau o Gymru ac i’r Alban i gyd. Dydi’r arian ddim wedi dod ac mae hynny yn siomedig iawn,” meddai.

“Camgymeriad arall oedd meddwl bod y Gemau am ddeffro diddordeb holl ieuenctid Cymru a Phrydain i gystadlu. Os rhywbeth, mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod llai o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Mi gafodd y Gemau eu gwerthu yn fy marn i ar sail gwbl gyfeiliornus,” meddai.