Mae’r gwasanaethau brys wedi lleddfu pryderon y bore ’ma fod pobol wedi cael eu hanafu ar ôl i wal mawr ddymchwel yn annisgwyl wrth ymyl stryd yn Abertawe.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru, cafodd cwn chwilio arbennig eu hanfon i’r digwyddiad rhag ofn, ond nad oedd arwydd bod unrhyw un o dan y rwbel.

Cafodd y Gwasanaeth Tân eu galw i Stryd Langland, yn Langland, Abertawe am 6.48 y bore ’ma, wedi adroddiadau bod wal mawr wedi dymchwel.

Roedd y wal yn bedwar metr o uchder, yn ddau metr o led, ac yn 40 metr ar ei hyd.

Bu’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn archwilio’r safle am bron i awr a hanner cyn penderfynu rhoi’r mater yn nwylo peiriannydd strwythurol y Cyngor.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru nad oedd hi’n glir eto beth achosodd i’r wal ddymchwel y bore ’ma.