Mae’r Heddlu’n apelio am wybodaeth ar i ddyn ddioddef ymosodiad difrifol ym Mae Caerdydd yn ystod oriau man dydd Sadwrn.

Roedd dyn 19 blwydd oed o Gaerfaddon yn cerdded yng nghyffiniau Bute Terrace am tua 12.45am pan ddaeth dyn dieithr ato a dechrau cerdded gydag o.

Fe gafodd eiddo’r dyn ei ddwyn yn ardal  Stryd Tyndall ac fe gafodd y dyn anafiadau difrifol yn yr ymosodiad.

Ar hyn o bryd, mae’n derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru lle mae’n parhau  mewn cyflwr difrifol.  Mae’r Heddlu’n apelio ar y cyhoedd am wybodaeth am y digwyddiad.

“Mae ymchwiliad llawn ar y gweill i geisio dal y sawl sy’n gyfrifol,” meddai Shane Ahmed o’r Heddlu.

Fe ddywedodd fod teulu’r dyn yn derbyn cefnogaeth gan yr Heddlu.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am ddyn sy’n cael ei ddisgrifio fel hil-gymysg, yn gwisgo crys-t polo streipiog gwyn gyda motif tywyll ar y frest chwith, jîns glas ac esgidiau chwaraeon gwyn.

Er bod y digwyddiad wedi digwydd yn oriau man fore Sadwrn, mae’n bosibl y gallai pobl oedd yn cerdded tuag at, neu o Ganol Dinas Caerdydd fod wedi gweld rhywbeth.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth, a welodd y ddau yn cerdded neu siaradodd gyda dyn o’r disgrifiad uchod gysylltu gyda’r Heddlu ar unwaith ar ,02920 527420, 101 neu’n ddienw gyda Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.