Bydd gwasanaeth bws cyflym fu’n cysylltu Glyn Ebwy a’r rheilffordd o Gasnewydd i Gaerdydd yn ail agor cyn bo hir a hynny dair blynedd ar ôl i wasanaeth cyffelyb ddod i ben.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu’r gwasnaeth am flwyddyn yn dilyn galwadau ers tro i wella’r cyswllt rheilffordd rhwng Glyn Ebwy a Chasnewydd.

Daeth y cynllun gwreiddiol i ben yn 2008 oherwydd prinder teithwyr.

Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sergeant ei fod yn croesawu ac yn cefnogi’r cynllun peilot yma.

“Rwy’n gweld hyn fel y cam cyntaf i wella’r gwasanaeth rheilffordd rhwng Glyn Ebwy a Chasnewydd,” meddai.

Dywedodd arweinydd Cyngor Casnewydd, Mathew Evans bod y cyngor wedi cael sicrwydd gan y llywodraeth y bydd y cam nesaf, sef agor y cyswllt rheilffordd rhwng y ddau le, yn cael ei ystyried yn llawn.

“Bydd y cyngor yn ymgyrchu’n gryf dros hyn oherwydd waeth pa mor falch yr ydan ni o gael y gwasanaeth bws cyflym dyw hyn ddim yn mynd i gymeryd lle gwasanaeth rheilffordd.”

Ychwanegodd William Graham, yr Aelod Cynulliad Ceidwadol dros Ddwyrain De Cymru bod angen hysbysebu y gwasanaeth newydd yn dda yn groes i’r hyn ddigwyddodd efo’r gwasanaeth blaenorol.

“Mae taer angen cyswllt rheilffordd er mwyn helpu i adfywio canol dinas Casnewydd” meddai.