Cheryl Gillan - 'meddwl agored'
Mae Comisiwn Silk yn dechrau ei waith heddiw i ystyried a ddyali Cymru gael rhagor o rym a rhagor o reolaeth ariannol.

Cyn dechrau’r ymchwiliad, fe ddywedodd y Cadeirydd, Paul Silk, y bydden nhw’n edrych ar bopeth, o rym yr heddlu i drethi.

Fe gadarnhaodd y bydden nhw’n ystyried rhoi hawl i Lywodraeth Cymru armrywio treth incwm ond fod problemau gyda rhai trethi eraill.

Mae cynrychiolwyr o bob un o’r pedair prif blaid ar y Comisiwn sydd wedi ei sefydlu gan y Llywodraeth Glymblaid yn Llundain.

‘Meddwl agored’

Ddoe, fe ddywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, fod ganddi hi “feddwl agored” am waith y Comisiwn ond ei bod hefyd yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gymryd peth cyfrifoldeb am godi arian.

Mae’r Blaid Lafur yn llawer mwy amheus am ddatblygiadau felly ond dyna fydd tasg gynta’r Comisiwn. Mae disgwyl adroddiad arall am rymoedd erbyn 2013.