Peter Hain
Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi cyhuddo Peter Hain o “godi ofn diangen” ar bobol ynglŷn â’r posibilrwydd o roi mwy o bwerau trethi i Gymru.

Yn ôl r cyn-Ysgrifennydd Cymru Peter Hain, fe fyddai trosglwyddo pwerau trethi i Gymru trwy Gomisiwn Silk yn “dinistrio’r”  genedl.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin y prynhawn yma, dywedodd Peter Hain fod “Comisiwn Holtham wedi darganfod fod o gwmpas £17.1 biliwn o refeniw trethi yn cael eu codi yng Nghymru bob blwyddyn. Mae cyfanswm gwariant cyhoeddus yng Nghymru o gwmpas £33.5 biliwn – bron i ddwywaith y cyfanswm sy’n cael ei godi yma.

“Dylen ni ddim bod â chywilydd o hynny,” ychwanegodd, “Mae anghenion Cymru yn fwy na nifer o ardaloedd eraill o’r Deyrnas Unedig.”

Rhybuddiodd yr Aelod Seneddol Llafur ei fod yn “amheus iawn o agenda’r Toriaid wrth gyflyno Comisiwn Silk” – gan ddweud ei fod yn credu bod y Ceidwadwyr yn ceisio “dadlwytho eu dyletswyddau ariannol” trwy roi cyfrifoldeb trethi ar Gymru.

Ond yn ôl Cheryl Gillan, roedd Peter Hain yn ceisio “codi ofn diangen ymhlith pobol Cymru,” gan wadu y byddai unrhyw newid trwy’r Comisiwn Silk yn arwain at haneru’r arian sydd ar gael i Gymru.

“Gall unrhyw ffŵl wario arian, beth sy’n rhaid i ni gael yw atebolrwydd,” meddai Cheryl Gillan.

“Mae’n siwr ei bod hi’n well i’r sefydliadau datganoledig fod yn atebol i bobol Cymru, nid yn unig am y penderfyniadau ar wariant cyhoeddus yng Nghymru, ond wrth fod yn gyfrifol am godi peth o’r arian sydd ei angen  er mwyn talu am y penderfyniadau hynny.”

Yn ôl Cheryl Gillan mae diffyg atebolrwydd yn y  system bresenol – lle mae Trysorlys San Steffan yn rhoi grant blynyddol i Fae Caerdydd.

Bydd y Comisiwn Silk, dan gadeiryddiaeth Paul Silk, yn cyfarfod am y tro cyntaf yng Nghanolfan y Mileniwm yfory, gyda’r gwaith o ymchwilio i’r angen o roi pwerau trethi i Gymru.