Mae ffrae wedi codi rhwng Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi i Ysgrifennydd Gwladol Cymru annog gwleidyddion i roi pwysau ar Brif Weinidog Cymru i ailddechrau twristiaeth yng Nghymru.
Mewn llythyr at Aelodau o’r Senedd a chynghorwyr ar draws Cymru, rhybuddiodd Simon Hart y byddai peidio ailagor y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yn gallu “plymio cymunedau i mewn i amddifadedd.”
Aeth ymlaen i rybuddio y bydd hi’n “anochel bod swyddi’n cael eu colli.”
Ond ddydd Mercher (Mehefin 17) tarodd Llywodraeth Cymru’n ôl, gyda’r Gweinidog perthnasau rhyngwladol, Eluned Morgan, yn ei gyhuddo o ddefnyddio ei swyddfa i “lobïo” ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Wrth gwrs mae ganddo’r hawl i ddadlau ei achos, ond mae hi’n sefyllfa od pryd mae swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gorfod lobïo ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Byddwn yn gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth wyddonol er mwyn cadw ein cymunedau yn saff yng Nghymru.
“Fe wnawn ni beth sy’n iawn i Gymru, pan mae’n iawn i Gymru.”