Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn ymosod ar aelod o staff yng ngorsaf Castell-nedd.

Mae swyddogion wedi rhyddhau lluniau teledu cylch cyfyng o berson maen nhw’n credu allai fod â gwybodaeth am yr ymosodiad a ddigwyddodd ddydd Iau, 8 Fedi, 2011.

Fe aeth dyn i mewn i orsaf Castell Nedd am tua 10.10am a phrynu tocyn plentyn yn y peiriant tocynnau.

Ar ôl sylwi fod y dyn yn edrych yn hŷn, fe wnaeth aelod o staff yr orsaf stopio’r dyn gan ofyn am ei oedran. Yna, fe aeth y dyn yn ymosodol gan sarhau’r aelod staff benywaidd a cheisio rhoi ei fys i fyny ei thrwyn.

“Rydan ni wedi adnabod dyn rydan ni’n awyddus i siarad ag o mewn cysylltiad â’r digwyddiad,” meddai Ian Price o Heddlu Abertawe.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn yn ei arddegau hwyr, tua 5 troedfedd naw modfedd o daldra, yn gwisgo trowsus trac wisg lwyd  a thop hwd gyda streipiau gwyn ar y fraich.

Yn ôl y dyn, roedd yn teithio i Bort Talbot, ond gadawodd yr orsaf ar ôl cael ei herio.

“Roedd y digwyddiad yn un wnaeth godi ofn ar y dioddefwr, cafodd ei gadael mewn sioc,” meddai Ian Price o’r heddlu.

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 0800 40 50 40 neu alw Taclo’r Tacle yn ddi enw ar 0800 555 111.