Mae elusen wedi lansio gwasanaeth ar-lein i helpu pobol yng Nghymru sydd yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’r cyfnod clo.
Yr elusen, Barod, sydd yn gyfrifol am y gwasanaeth ‘gwe-sgwrs’ hwn, ac mi fydd ar gael i’r rheiny sydd wedi bod yn gaeth i alcohol a chyffuriau – ac sy’n wynebu’r risg o ddychwelyd at hynny.
Yn ôl Caroline Phipps, Prif Weithredwr Barod, mae’r cyfnod clo yn rhoi pwysau ar y rheiny sydd yn ceisio brwydro’u dibyniaeth, ac mi fydd y gwasanaeth yn helpu yn hyn o beth.
“Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi gweld naid yn y nifer o bobol sy’n cael eu cyfeirio [at wasanaethau],” meddai.
“Roedd yna gwymp ar ddechrau’r cyfnod clo. Ond bellach mae’r cyfnod clo yn rhan o’n bywydau bob dydd, ynghyd ag unigrwydd, a’r effaith meddyliol o fyw trwy’r pandemig.
“Ac rydym wedi gweld pobol yn troi yn ôl at hen arferion y maen nhw wedi llwyddo eu rheoli hyd yma. Mae eraill wedi troi at sylweddau yn eu hymdrech i leddfu’r boen.”
Sgwrsio
Sgyrsiau ar lein â staff Barod fydd y ‘gwe-sgyrsiau’, ac mi fydd y gwasanaeth ar gael i bobol ledled Cymru.
Bydd y gwasanaeth ar gael o 9yb-9yp rhwng dydd Llun a dydd Gwener, ac mi fyddan nhw ar gael rhwng 11yb-4yp ar y penwythnos.