Mae un o ohebwyr y Daily Post wedi datgelu iddi ddweud wrth rywun am “addysgu ei hun” ar ôl derbyn cais i flogio yn Saesneg yn unig.

Daw’r neges ar ôl i Mari Jones, gohebydd yn ardal Conwy, ddymuno “bore da” i ddarllenwyr blog byw’r wefan newyddion fore heddiw (dydd Sul, Mehefin 7).

“O diar,” meddai’r gohebydd ar ddechrau neges Twitter.

“Oherwydd ’mod i wedi blogio cwpwl o eiriau yn Gymraeg y bore ’ma, fel ‘bore da’, dw i wedi cael cais gan rywun i flogio dim ond “yn Saesneg plîs” gan nad yw llawer o bobol yn deall.

“Dw i wedi dweud wrthyn nhw am addysgu eu hunain – rydyn ni’n byw yng Nghymru!”

Mae ei neges wedi cael ei hoffi dros 200 o weithiau, ac mae pobol yn dymuno “bore da” iddi wrth ymateb, ac mae wedi arwain at drafodaeth at ba mor aml mae pobol yn defnyddio Cymraeg ar wefannau cymdeithasol, a phrofiadau pobol ddi-Gymraeg o glywed yr iaith.