Byron Davies
Mae llefarydd trafnidiaeth y Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi beirniadu’r penderfyniad i ganslo teithiau fferi rhwng Abertawe a Cork hyd Ebrill 2012.

Yn ôl Byron Davies AC, mae’r penderfyniad yn “ergyd enfawr” i gysylltiadau masnach “hanfodol” rhwng Cymru ac Iwerddon.

Mae hefyd yn bryderus am yr effaith ar dwristiaeth yn Ne Orllewin Cymru.

Mae cwmni Fastnet Line wedi penderfynu canslo’r gwasanaeth fferi  er mwyn ad-drefnu’r busnes a’r gobaith yw y bydd yn ailddechrau ym mis Ebrill 2012.

Mae’r cwmni wedi cael ei roi yn nwylo gweinyddwyr dros dro gan yr Uchel Lys yn Nulyn er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw ailstrwythuro’r busnes.

Dywedodd y cwmni mai dim ond rhwng mis Ebrill a Medi y byddan nhw’n cynnal  teithiau fferi o dan eu cynllun busnes newydd. Mae nhw’n beio prisiau olew uchel.

Fe fydd cwsmeriaid yn cael eu ad-dalu am deithiau, meddai’r cwmni.