Mae pedwar dyn wedi cael eu harestio yn dilyn ymosodiad yng Nghaerdydd.

Fe ddigwyddodd yn ardal Treadda am oddeutu 7.40yh nos Wener (Mehefin 5).

Mae’r pedwar, sy’n 23, 25, 27 a 42 oed, yn cael eu holi yn y ddalfa ar ôl i’r heddlu ymateb i adroddiadau bod unigolyn wedi cael ei thrywanu.

Cafodd dynes ei chludo i’r ysbyty ag anafiadau i’w choes yn dilyn y digwyddiad, ond dyw ei bywyd ddim mewn perygl.

Mae lle i gredu bod y pump yn adnabod ei gilydd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.