Mae’r cerddor Al Lewis wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn “hapus iawn” i fod yn cael perfformio yng ngŵyl Tafwyl eleni.

Heddiw (dydd Gwener, Mehefin 5) cyhoeddodd Tafwyl, gŵyl gelfyddydau a diwylliant Cymreig yng Nghaerdydd, y bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ymhen pythefnos, Mehefin 20, 2020.

Bydd yr ŵyl yn cael ei ffrydio’n fyw o Gastell Caerdydd gan gynnig cyfuniad o gerddoriaeth fyw, llenyddiaeth, trafodaethau a gweithgareddau i blant.

Bydd pump o’r artistiaid sy’n perfformio wedi recordio set o flaen llaw, tra bod pump yn perfformio’n fyw o’r castell.

Un o’r rheini ydi Al Lewis sy’n dweud ei fod yn ei fod yn “hapus iawn” i fod yn perfformio yn Tafwyl.

“Roeddwn i’n hapus iawn pan ges i’r galwad, mi fydd hi’n braf cael gwneud gig ar lwyfan proffesiynol a dangos bod gwyliau yn dal i gael eu cynnal,” meddai wrth golwg360.

“Efo lwc bydd pobol yn cael rhyw flas o sut brofiad ydi’r ŵyl.”

Gohirio taith hanner ffordd drwodd

Rhyddhawyd Al Lewis ei albwm ddiweddaraf, Te yn y Grug, ar Chwefror 21 ond bu’n rhaid iddo ohirio’r daith i hyrwyddo’r albwm hanner ffordd drwodd.

“Roedd o’n siom enfawr oherwydd roedd hi’n edrych fel petai’r gigs am werthu allan ac roeddwn i wedi paratoi gyda chorau lleol aballu.

“Mae’n gyfnod anodd i gerddorion ond mae yno oleuni a gobeithio y bydd pethau yn ôl i’r arfer yn fuan.”

Mae Al Lewis wedi ymateb i orfod gohirio gigs trwy wneud perfformiadau rhithwir yn ogystal â chynnal gigs yn ei stryd.

“Dwi wedi mwynhau gwneud gigs yn fy stryd gyda phobol yn gwrando o’u drysau, mae’n deimlad braf gallu gwneud cysylltiadau efo pobol,” meddai wrth golwg360.

“Edrych ymlaen” at gael chwarae gyda’r band

Dywed Al Lewis ei fod yn “edrych ymlaen” at gael chwarae gyda’i fand ar ôl cyfnod hir.

“Mi fydd o’n ddiddorol oherwydd mae hi’n amhosib ymarfer, does gennym ni ddim lle ddigon mawr.

“Ond dwi wedi bod yn chwarae efo’r un hogiau ers oes a dwi’n edrych ymlaen at berfformio fel band, dwi’n colli’r cysylltiad o gyd-berfformio.”