Mae cynlluniau i adeiladu amgueddfa newydd ger yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd wedi cael eu beirniadu, gyda Phlaid Cymru yn galw’r penderfyniad yn “sarhad” a galw am amgueddfa sydd yn adlewyrchu amrywiaeth y bobl sy’n byw yno, a’r hanes lleol cyfoethog.

Mae’r Amgueddfa Meddygaeth Filwrol yn bwriadu symud i leoliad ym Mae Caerdydd, o Farics Keogh yn Aldershot, Surrey.

Ymgynghori

Mae Nasir Adam, actifydd cymunedol a Churadur Hanes Du Cymraeg, yn galw’r penderfyniad yn enghraifft arall o bethau “yn cael eu gorfodi ar y gymuned leol, heb unrhyw ymgynghori â thrigolion.”

Tra bod yr amgueddfa’n dweud bod ymgynghoriad cyhoeddus “bellach ar y gweill” mae deiseb wedi’i dechrau gan drigolion lleol i atal yr adleoli.

Roedd arfer bod amgueddfa ym Mae Caerdydd a oedd yn cynrychioli bywydau ei gymuned amlddiwylliannol amrywiol – Canolfan Hanes a Chelfyddydau Trebiwt – ond caeodd hyn ei drysau yn 2016 oherwydd diffyg cyllid – yr un flwyddyn y dechreuodd yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol chwilio am ei chartref newydd.

Mae’r amgueddfa filwrol newydd yn addo “profiad ymwelwyr o’r radd flaenaf” ac yn gwerthu eitemau fel copïau o wisgoedd milwrol a ffigurynnau tanc bach yn ei siop anrhegion.

“Sarhad”

Dywed Leanne Wood AS nad yw symud yr amgueddfa i Gaerdydd yn gwneud unrhyw synnwyr o ystyried diffyg hanes milwrol Caerdydd, ac yn dweud fod y penderfyniad yn dystiolaeth bellach o ‘gentrification’ ardal Bae Caerdydd:

“Mae hi’n sarhad ar y bobl sy’n perthyn i’r ardal fod Cyngor Caerdydd wedi gwylio Canolfan Hanes a Chelfyddydau Trebiwt yn cau oherwydd diffyg arian yn 2016, dim ond i groesawu’r Amgueddfa Meddygaeth Filwrol i’r ardal.

“Nid tref filwrol yw Caerdydd, a dydy hi ddim yn gwneud synnwyr cael amgueddfa yn gogoneddu rhyfela yno. Mae’r hyn sydd ganddo yn hanes cyfoethog, ond mae hyn yn cael ei wthio o’r neilltu yn gyflym gyda ‘gentrification’ ardal Bae Caerdydd.

“Beth sy’n ychwanegu sarhad pellach, yw ein bod ni’n clywed bod yr amgueddfa i’w lleoli ar un o’r meysydd chwarae olaf sydd ar ôl yn yr ardal.

“Yr hyn sydd ei angen yw amgueddfa sy’n adlewyrchu hanes amrywiol ac amlddiwylliannol y bobl sy’n galw ardal Bae Caerdydd yn gartref.”

Trigolion lleol

Dywedodd actifydd cymunedol a churadur Hanes Du Cymru, Nasir Adam,

“Mae amgueddfa lwyddiannus gyda chyswllt clir â phrofiadau trigolion lleol. Nid oes gan Gaerdydd hanes milwrol, ac felly mae’n rhaid i ni ofyn hanes a diwylliant pwy sy’n cael ei adrodd yn yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol?

“Daw’r symudiad diweddaraf hwn ynghyd nifer o bethau eraill sy’n cael eu gorfodi ar y gymuned leol, heb unrhyw ymgynghori â thrigolion.

“Os na all pobl weld eu hunain yn cael eu cynrychioli mewn amgueddfeydd, dydyn nhw ddim yn mynd i eisiau fod yn rhan ohono.”

Ymateb Arweinydd Cyngor Caerdydd

Mae Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, wedi ymateb i’r ffrae ar Twitter i geisio esbonio’i safbwynt a rhoi cefndir y mater:

“Pam eu bod [yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol] eisiau dod i Gaerdydd? Dydw i erioed wedi cwrdd â nhw i ofyn, ond pe byddai’n rhaid i mi ddyfalu, byddwn i’n dweud ei fod yn ymwneud â’n niferoedd ymwelwyr (cyn-Covid). Hefyd, efallai y bydd cyswllt posibl ag un o Adrannau Prifysgol Meddygol gorau yn y DU? Dwi ddim yn gwybod.

“Beth bynnag (ac ni allaf bwysleisio hyn ddigon), ni fydd Cyngor Caerdydd yn cyfrannu’n ariannol naill ai at adleoli’r Amgueddfa, nac at eu costau parhaus. Ychydig iawn sydd gan y prosiect i’w wneud gyda ni.

Roedd eu lleoliad arfaethedig gwreiddiol yn broblem, fodd bynnag, am ei fod yn rhan o’r safle lle rydym yn gobeithio adeiladu arena newydd dan do […] Felly mae rhan o safle Parc Britannia wedi dod i’r amlwg fel safle amgen. Rydyn ni’n siarad yn bennaf am betryal concrid […] byddai angen ail-leoli Bwthyn y Ceidwad Loc, ond bach iawn yw’r parcdir a gollir.”