Mae elusen wedi cyhoeddi fod achosion o hiliaeth yn cynyddu mewn ysgolion yng Nghymru.

Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn elusen gwrth-hiliaeth sy’n darparu gweithdai i dros 20,000 o bobol ifanc yng Nghymru.

Dywed yr elusen fod hiliaeth yn bodoli ar draws system addysg Cymru, gyda channoedd o ddyddiau ysgol yn cael eu colli a nifer fawr o ddisgyblion yn cael eu diarddel o ysgolion yn sgil hiliaeth.

Dangosa wybodaeth a gafwyd drwy gais Rhyddid Gwybodaeth fod cynnydd o 19% wedi bod mewn gwaharddiadau ysgol yn 2018/19 o’i gymharu â 2017/18.

“Mae’n siomedig iawn fod yna gyn lleied o gynnydd wedi cael ei wneud wrth fynd i’r afael â beth sy’n broblem gynyddol yn ein hysgolion,” meddai Rheolwr Ymgyrchu Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, Sunil Patel.

Tra bod y Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi ymateb i’r adroddiad drwy ddweud: “Wnawn ni ddim goddef hiliaeth yng Nghymru. Mae ein plant a’n pobol ifanc yn mynd i’r ysgol er mwyn dysgu, tyfu a gwneud ffrindiau, ddim i orfod dygymod â hiliaeth ar y cae chwarae na’r dosbarth.”

Canfyddiadau

Yng nghrynodeb weithredol yr adroddiad, mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn nodi’r cnfyddiadau canlynol, ymhlith eraill:

  • bod hiliaeth yn cael ei danamcangyfrif gan athrawon yng Nghymru.
  • bod hiliaeth yn digwydd ar draws oedrannau gwahanol ond yn amlach mewn ysgolion uwchradd.
  • bod esiamplau o wrth-semitiaeth mewn ysgolion, yn ogystal â rhagfarn gwrth-fwslemaidd ac agweddau negyddol tuag at Gristnogaeth.

Yn ôl yr adroddiad, hefyd, mae awgrym nad yw gwrth-hiliaeth yn cael ei gynnwys yn ddigonol yng nghwricwlwm nifer o ysgolion, ac nad yw’r mwyafrif o athrawon wedi derbyn unrhyw hyfforddiant gwrth-hiliaeth, gyda llawer yn cyfaddef nad ydynt yn hyderus wrth adnabod ac adrodd ar hiliaeth, yn ogystal â chefnogi unigolion sy’n dioddef.

Er hynny, mae’r adroddiad yn nodi bod disgyblion ag athrawon, ill dau, yn credu y byddai addysg yn gallu cael effaith arwyddocaol wrth ymladd yn erbyn hiliaeth.