Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ystyried sefydlu ymchwiliad i hiliaeth strwythurol yng Nghymru.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bod pandemig y coronafeirws wedi achosi oedi o ran cynlluniau Llywodraeth Cymru i gael mwy o bobl dduon, asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) i mewn i wasanaeth cyhoeddus.

Ond byddai’n “meddwl am” sefydlu ymchwiliad i hiliaeth yng Nghymru, yn dilyn marwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau, sydd wedi arwain at lu o brotestiadau.

Disgrifiodd y fideo o swyddog heddlu gwyn yn penlinio ar wddf Mr Floyd yn Minneapolis fel “hollol drallodus”.

Gwnaeth Mr Drakeford y sylw wrth iddo ateb cwestiynau yn y Senedd gan arweinydd Plaid Cymru Adam Price, oedd wedi galw am “ymchwiliad eang” i hiliaeth strwythurol ac “anfantais hiliol” yng Nghymru.

“Mae anfantais strwythurol i bobl dduon yn America, ond mae Adam Price yn iawn i ni beidio â meddwl ei fod yn bodoli mewn mannau eraill,” meddai’r Prif Weinidog.

“Mae’n bodoli yn ein cymunedau ni hefyd […] yn rhan annatod o’r ffordd y mae sefydliadau’n gweithredu ac mae penderfyniadau’n cael eu gwneud.”

Dywedodd Mr Drakeford fd record Cymru o benodi pobl o grwpiau BAME i swyddi cyhoeddus “ddim yn ddigon da”.

“Cawsom adolygiad […] o’n proses benodiadau yn ail hanner y llynedd, ac roeddem ar fin cyflwyno dull cwbl wahanol i’r penodiadau hynny pan darodd argyfwng coronafeirws,” meddai.

“Un o’m huchelgeisiau yw gallu dod â’r darn hwnnw o waith yn ôl […] cyn gynted ag y gallwn.”

Dywedodd Mr Price fod gan Gymru, yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru, gyfradd garcharu fwy anghyfartal o ran hil na Lloegr, a honno’n fwy anghymesur o ran hil na’r Unol Daleithiau.

“Mae llofruddiaeth greulon George Floyd gan swyddogion yr heddlu yn yr Unol Daleithiau yr wythnos hon wedi ail-gynnau’r ddadl ynglŷn â hiliaeth ar ddwy ochr yr Iwerydd,” meddai Mr Price.

“Hiliaeth strwythurol sydd wrth wraidd yr anghyfiawnder hwn.

“A gallai hiliaeth strwythurol fod yn un o’r rhesymau rydym yn gweld nifer llawer uwch o farwolaethau o gymunedau pobl dduon, asiaidd a lleiafrifoedd ethnig o ganlyniad i Covid-19.

“Os ydym yn wir yn credu bod bywydau pobl ddu o bwys, mae’n rhaid i ni gydnabod a mynd i’r afael â hiliaeth strwythurol yma yng Nghymru hefyd.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ymchwiliad pellgyrhaeddol i […] hiliaeth strwythurol yma yng Nghymru.”