Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi y bydd ysgolion yn ailagor ar Mehefin 29 ar gyfer tymor o bedair wythnos a fydd yn dod i ben ar Orffennaf 27.

Dywedodd y bydd hyn yn rhoi amser i ddisgyblion, staff a rhieni baratoi ar gyfer “normal newydd” pan fydd y flwyddyn academaidd nesaf yn dechrau ym mis Medi.

Wrth siarad yn ei chynhadledd heddiw (ddydd Mercher, Mehefin 3) dywedodd Kirsty Williams y byddai’r ailagor yn digwydd fesul cam, gydag amserau gwahanol ar gyfer gwersi ac egwyliau ac ati i wahanol grwpiau blwyddyn. Traean o’r disgyblion ar y mwyaf gaiff eu caniatáu yn yr ysgol ar unrhyw adeg.

Amser

“Mae fy nghyhoeddiad i heddiw’n rhoi tair wythnos a hanner i ysgolion i barhau i baratoi ar gyfer y cam nesaf” meddai Kirsty Williams.

“Byddwn yn defnyddio wythnosau olaf tymor yr haf i wneud yn siŵr bod disgyblion, staff a rhieni yn barod – yn feddyliol, yn emosiynol ac yn ymarferol – ar gyfer y normal newydd ym mis Medi.

“Mae Mehefin 29 yn golygu y bydd mis llawn o brofi, olrhain a diogelu wedi bod – a bydd hyn yn parhau i ehangu hefyd.

“Hefyd gallaf gyhoeddi y bydd athrawon yn grŵp blaenoriaeth yn ein rhaglen profion gwrthgyrff newydd.

“Mae’r wyddoniaeth […] yn awgrymu bod tywydd cynnes a golau’r haul yn rhoi’r cyfle gorau i ni sicrhau mwy o amser mewn ysgolion.

“Byddai aros tan fis Medi yn golygu bron i hanner blwyddyn heb addysgu – byddai hynny’n niweidiol i les, i gynnydd dysgu ac i iechyd meddwl ein pobl ifanc ni.

“Mae hwn yn, ac wedi bod, yn gyfnod pryderus i ni i gyd. Rydw i’n gwybod y bydd llawer ohonoch chi’n teimlo’n nerfus.

“Dydyn ni heb frysio gyda’r gwaith a’r penderfyniad hwn.

“Hefyd mae’r cyfnod o dair wythnos a hanner cyn y cam nesaf yn rhoi amser i ni gadw llygad ar ddatblygiadau mewn llefydd eraill, ac mae’n darparu cyfleoedd gwirio pellach i adolygu’r dystiolaeth ac ehangu’r profi.

“Dyma’r opsiwn ymarferol gorau sy’n cadw at y pum egwyddor sy’n sail i fy mhenderfyniadau.

“Trwy gydweithio, byddwn yn sicrhau tegwch a rhagoriaeth i ddisgyblion wrth iddyn nhw ddod i’r ysgol, dal ati i ddysgu, a pharatoi ar gyfer yr Haf a mis Medi.”

Addysg Bellach

Disgwylir i golegau addysg bellach ailagor ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb o Fehefin 15, gyda blaenoriaeth i fyfyrwyr sy’n gorfod asesu eu trwydded i ymarfer a dysgwyr sy’n fregus.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn cyhoeddi canllawiau i gefnogi ysgolion ac addysg bellach yr wythnos nesaf, gan gynnwys gwybodaeth am reoli eu cyfleusterau, yn ogystal â chanllawiau i ddarparwyr gofal plant.

Ymateb

Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru wedi ymateb yn gyflym i nodi pryderon am y cynllun, gydag undebau eraill yn yn ategu hynny. Roedd phefyd peth cefnogaeth i’r cynlluniau.