Fe fydd naw o bobol yn mynd gerbron llys heddiw (dydd Mercher, Mehefin 3), wedi’u cyhuddo o gyflenwi crac cocên a heroin.

Daw’r cyhuddiadau yn dilyn cyrchoedd yng Nghasnewydd ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 2).

Mae’r naw yn amrywio mewn oedran o 15 i 42 oed.

Bydd saith ohonyn nhw, sy’n 16, 20, 21, 21, 22, 25 a 42 oed, yn mynd gerbron ynadon yng Nghaerdydd.

Bydd y ddau arall, sy’n 15 ac 16 oed, yn mynd gerbron Llys Ieuenctid Cwmbrân ddydd Mawrth, Gorffennaf 7.

Mae llanc 17 oed ar fechnïaeth wrth i’r ymchwiliad barhau.

Arestio rhagor

Ar ail ddiwrnod y cyrchoedd, mae Heddlu Gwent yn dweud iddyn nhw arestio pump yn rhagor o bobol yng Nghasnewydd.

Mae’r pump, sy’n 19, 21, 26, 33 a 50 oed, wedi’u harestio ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau dosbarth A, ac maen nhw’n cael eu holi yn y ddalfa.