Mae pedwar sefydliad o Gymru wedi ennill Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol eleni.

Y pedwar yw Roots Foundation Wales, Llyfrgell Gymunedol Cymer Afan, Hands Around the World a Chymdeithas Camlesi Abertawe.

Mae Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol eleni yn gwobrwyo grwpiau gwirfoddol sydd wedi gwella a chefnogi cymunedau lleol dros y blynyddoedd

Mae’r rhai sydd wedi’u gwobrwyo eleni wedi dangos yr amrywiaeth o sefydliadau sy’n cefnogi cymunedau ac sydd â’r gallu i arloesi, gyda llawer wedi llwyddo i addasu eu gwasanaethau yn sgil y pandemig coronafeirws.

‘Pob un wedi dangos ymrwymiad hirdymor’

“Mae pob un o enillwyr y gwobrau hyn wedi dangos ymrwymiad hirdymor i wirfoddoli sy’n rhoi gwir ystyr i gymdeithas, ac sy’n dangos Prydain ar ei gorau,” meddai Syr Martin Lewis, cadeirydd pwyllgor annibynnol Gwobr y Frenhines ar gyfer gwasanaeth gwirfoddol.

“Ar ben hynny, mae rhai ohonynt hefyd wedi llwyddo i ddarparu cymorth gwerthfawr gyda’r frwydr yn erbyn Covid-19. Rydym yn ddyledus iddynt – ac yn eu llongyfarch.”

Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, hefyd wedi llongyfarch yr enillwyr.

“Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod yr oriau o waith caled mae gwirfoddolwyr a sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig yn ei wneud i wasanaethu eu cymunedau a chreu ymdeimlad o falchder lleol,” meddai.

“Llongyfarchiadau i’r pedwar o Gymru sy’n eu derbyn, sydd i gyd yn llwyr haeddu’r wobr hon am y rôl gadarnhaol maen nhw’n ei chwarae yn y gymdeithas.”