Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth wedi i gar gael ei ddifrodi ac achos o dorri i mewn i gar arall yng Nghaerfyrddin.

Digwyddodd yr achos cyntaf ar Belvedere Avenue pan gafodd ffenest gefn Ford C-max glas ei thorri gyda bricsen rhwng 5:30yp ar Fai 12 ac 8:30yb ar Fai 13.

Digwyddodd yr ail achos rhwng 2yb a 2:30yb, wrth i rywun dorri i mewn i gar Alfa Romeo, gan ddwyn potel o jin, bag a phwrs.

Mae’r heddlu’n credu fod y person sy’n gyfrifol ar gefn beic ar y pryd.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys.