Mae arbenigwyr canser sy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog cleifion i ddod ymlaen am brofion diagnostig a thriniaeth.

Mae pryderon nad yw nifer yn ceisio’r gofal sydd ei angen arnyn nhw oherwydd y pandemig COVID-19.

Yn ôl Hywel Dda, er eu bod nhw wedi sefydlu llwybrau cleifion llym a rhoi mesurau rheoli heintiau ar waith ym mhob un o’u hysbytai, mae’r bwrdd iechyd yn poeni bod cleifion yn osgoi cael mynediad at driniaeth a gofal, ar ôl i ffigurau newydd dynnu sylw at ostyngiad o 49% mewn atgyfeiriadau canser ers mis Mawrth.

“Rydyn ni’n deall pam y gallai pobol deimlo bod angen iddyn nhw gadw draw oherwydd y pandemig COVID diweddar,” meddai Mr Jegadish Mathias, Arweinydd Canser  Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Ond mae gennym ardaloedd ‘gwyrdd’ dynodedig clir iawn yn yr ysbytai ar gyfer profion diagnostig a thriniaeth.

“Rydyn ni am i bobol sydd â chanser wybod ein bod ni’n dal yma.

“Mae’n rhaid i ni fod yn greadigol a gwneud rhai pethau’n wahanol i helpu i amddiffyn cleifion a’n cydweithwyr, ond mae’r holl weithwyr allweddol canser yn dal yn eu rolau arferol.

“Felly, os oes gennych chi unrhyw bryderon o gwbl, cysylltwch â ni yn y ffordd arferol.”

Dim i’w ofni

Mae meddygon teulu hefyd yn annog pobol i ffonio’u meddygfa os ydyn nhw’n credu y gall fod ganddyn nhw symptomau canser fel lwmp newydd neu boen, neu os ydyn nhw’n gwaedu neu’n colli pwysau’n sydyn.

“Er ein bod ni’n byw mewn cyfnod rhyfeddol, mae hi mor bwysig bod pobol yn byw’r bywyd gorau y gallan nhw,” meddai Dr Llinos Roberts, Meddyg Teulu ym Meddygfa Tymbl.

“Mae’r gwasanaeth iechyd y gallwn ei gynnig yn wahanol, ond mae’n dal i fod yma – mae meddygon teulu yn dal i weithio.

“Er bod y drysau ar gau ar hyn o bryd, rydym yn dal i gynnig cyngor ac asesu cleifion.

“Ond rwy’n poeni nad yw cleifion yn cysylltu â ni yn y niferoedd y byddem yn eu disgwyl.”

Profiadau claf

Dywed Carrie Speake, claf sy’n cael triniaeth cemotherapi yn yr Uned Dydd Haemotoleg ac Oncoleg yn Ysbyty Llwynhelyg, nad oes angen i bobol fod ofn cael mynediad i ofal.

“Mae wedi bod yn ffantastig,” meddai.

“Mae’r tîm yma’n rhyfeddol, mae pawb mor ofalgar.

“Braf yw medru cymdeithasu o ryw fath. Mae’r mesurau y mae’r bwrdd iechyd wedi’u rhoi ar waith yn hollol wych.

“Does dim byd o gwbl i’w ofni.”