Bydd Wythnos y Gofalwyr yng Ngheredigion yn cael ei chynnal ar y we eleni yn sgil y coronafeirws.

Bydd yn cael ei chynnal yr wythnos nesaf, o ddydd Llun, Mehefin 8 tan ddydd Sul, Mehefin 14.

Ystyr ‘gofalwr’ yw rhywun sy’n edrych ar ôl ffrind neu aelod o’r teulu sydd ddim yn gallu ymdopi ar ei ben ei hun o achos salwch, afiechyd, anabledd, problem iechyd meddwl neu fod yn gaeth i gyffur.

Mae Wythnos y Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol er mwyn cydnabod y cyfraniad mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud i deuluoedd a chymunedau.

Gwerthfawrogi

Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, mae eleni wedi bod yn arbennig o heriol gan fod nifer o bobol wedi gorfod parhau i ofalu wrth weld gwasanaethau cymorth yn newid yn sylweddol neu’n cymryd saib heb unrhyw syniad pryd y bydd pethau’n mynd yn ôl i ryw fath o drefn arferol.

Mae’r Uned Gofalwyr a’i phartneriaid wedi bod yn gweithio i gyflwyno amrywiaeth o gwasanaethau a digwyddiadau arbennig i ofalwyr ledled Ceredigion er mwyn rhoi gwybod i ofalwyr bod pobol yn meddwl amdanyn nhw ac yn eu gwerthfawrogi.

Mae myfyrwyr o Goleg Ceredigion wedi bod yn gweithio gyda’r Uned Gofalwyr i baratoi dros 30 o sesiynau ar-lein am ddim, gan gynnwys:

  • negeseuon o ddiolch ar-lein
  • cwis sy’n addas i ofalwyr a’u teuluoedd
  • prosiect cyfeillio drwy’r post

Maen nhw’n annog gofalwyr i ymuno â nhw ddydd Sul, Mehefin 14 i godi cwpanaid o de i ofalwyr am 3 o’r gloch.