Mae Heddlu Gogledd Cymru yn pwysleisio’r perygl o nofio mewn pyllau chwareli yn ystod y tywydd braf.

Daw’r rhybudd yn dilyn digwyddiadau diweddar yn Nantlle, Llanberis a Helygain wrth i bobol dresmasu a neidio oddi ar y clogwyni i mewn i’r dŵr, er gwaetha’r anogaeth i bobol aros yn lleol ac i beidio â mynd allan oni bai bod ganddyn nhw resymau hanfodol yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae dŵr pyllau fel hyn yn arbennig o oer ac mae’r pyllau’n llawn peryglon cudd sy’n gallu achosi perygl difrifol.

“Dros y blynyddoedd diweddar bu sawl trychineb yn yr ardal ar ôl i bobol fynd i drafferthion ar ôl mynd i mewn i byllau mewn chwareli,” meddai’r Uwcharolygydd Richie Green o Heddlu Gogledd Cymru.

“Mae’n demtasiwn i neidio i mewn i’r pwll neu’r llyn agosaf ar ddiwrnod poeth neu i nofio yn nyfroedd hen chwarel, mae’r pyllau yn ddwfn iawn – hyd at 60 metr o ddyfnder – a gall dod allan fod yn anodd oherwydd yr ochrau serth.

“Yn ogystal â’r peryglon sy’n gysylltiedig â nofio mewn llefydd anghysbell, mae neidio o greigiau hefyd yn rhoi pobol mewn perygl.

“Mae nofio mewn chwareli gwag yn beryglus iawn ac rwy’n ymbilio ar blant a phobol ifanc ac unrhyw un arall i gadw draw.”

Tresmasu

Mae’r cyhoedd hefyd yn cael eu hatgoffa bod chwareli yn eiddo preifat a bod unrhyw un sy’n nofio neu yn dringo’r creigiau yn tresmasu.

“Er bod y tywydd yn boeth mae’r dŵr yn rhewllyd ac yn llawn peryglon fel sbwriel, chwyn a brwyn nad ydyn nhw o reidrwydd i’w gweld ar yr wyneb,” meddai’r Uwcharolygydd Green wedyn.

“Mae’r dŵr yn gallu bod yn ddwfn iawn a gall nofwyr fynd allan o’u dyfnder yn hawdd.

“Os ydych yn meddwl am nofio mewn llefydd o’r fath, meddyliwch eto, ystyriwch y peryglon a pheidiwch â thresmasu.

“Rydych yn rhoi eich hun mewn peryg ac, o bosib, bobol eraill a fydd yn gorfod dod i’ch achub.

“Rydym yn annog rhieni a gofalwyr i ddysgu eu plant am beryglon tresmasu ac i osgoi nofio mewn pyllau a llynnoedd ac i fod yn ymwybodol o’r hyn mae eu plant yn ei wneud yr haf hwn.”