Mae Dŵr Cymru wedi gweld y galw mwyaf am ddŵr gan eu cwsmeriaid, gan basio’r lefelau a welwyd yn ystod tywydd poeth haf 2018.
Daw hyn wrth i’r wlad brofi llai o law na’r arfer, i lawr 50% mis Ebrill a 30% mis Mai.
Dim ond 14.3mm o law oedd wedi disgyn fis Mai yn sgil y tywydd poeth, 17% yn unig o’r hyn yw’r lefel arferol ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn.
Dim ond yn 1896 y gwelwyd llai, pan ddisgynnodd 7.3mm o law.
Ar ddiwrnod arferol, mae’r cwmni fel arfer yn trin ac yn darparu 800 megalitr o ddŵr i’w cwsmeriaid.
Ond yn ystod y penwythnos, bu’n rhaid i’r cwmni ddarparu dros 1,000 megalitr er mwyn ateb y galw.
Er mwyn gwneud hynny, bu’n rhaid i’r cwmni gynyddu eu gweithredoedd.
Maen nhw hefyd wedi cynnyddu’r gwaith maen nhw’n ei wneud ar drwsio ac atgyweirio gollyngiadau, ac wedi cwblhau 4,700 o alwadau ar hyn yn ystod yr wythnos diwethaf.
Canllawiau i gwsmeriaid
Dywed y cwmni fod cwsmeriaid hefyd yn gallu chwarae rhan drwy beidio gwastraffu dŵr ac maen nhw wedi cynnig cyngor fel bod pobol yn osgoi gwastraffu dŵr:
- Peidio â gadael y tap yn rhedeg wrth olchi dwylo a brwsio dannedd
- Cael cawod yn hytrach na bath
- Aros tan bod peiriannau golchi dillad/llestri yn llawn cyn eu tanio
- Peidio â llenwi pwll padlo i’r top a rhoi’r dŵr i’ch planhigion ar ôl gorffen
Peidio â defnyddio taenellwr i roi dŵr i’r gwair