Mae Janet Finch-Saunders wedi ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru yn mynegi pryder na fu digon o sylw i hawliau plant Cymru yn ystod cyfyngiadau’r coronafeirws.

Yn ôl llefarydd plant y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r mesurau sy’n parhau i gael eu gweithredu yng Nghymru wedi achosi niwed i nifer fawr o blant a phobl ifanc, ac fe fydd yn parhau i wneud hynny.

Mae’n dweud bod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar Fai 29 am y rheol pum milltir yn enghraifft o’r math o fater y dylai’r Comisiynydd fod wedi mynd i’r afael ag e.

“Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am reol pum milltir ar gyfer y rheiny sydd am weld teulu a ffrindiau yn golygu na fydd llawer o blant yn gallu gweld eu neiniau a’u teidiau oherwydd y penderfyniad mympwyol hwn,” meddai.

Mae hefyd yn trafod methiant Gweinidogion Cymru i ailagor ysgolion fel sydd wedi digwydd yn Lloegr, a fydd yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol disgyblion yng Nghymru, meddai.

‘Dyletswydd’

“Mae’n ddyletswydd ar y Comisiynydd i sicrhau eu bod yn glynu wrth Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau’r plentyn, ond rwy’n pryderu’n ddirfawr nad yw hyn wedi digwydd,” meddai Janet Finch-Saunders.

“Rwyf wedi gofyn am sicrwydd a thystiolaeth fod penderfyniadau Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â’r Confensiwn.

“Rwy’n cydnabod fod y pandemig wedi cael effaith enfawr ar fywydau pob un ohonom, gan gynnwys plant.

“Fodd bynnag, rhaid inni beidio â gadael i ddyfodol cenhedlaeth gyfan o’n pobl ifanc gael ei rhoi mewn perygl am nad oedd Gweinidogion, a’r Comisiynydd, yn cyflawni eu dyletswyddau fel y dylen nhw.

“Byddaf, wrth gwrs, yn cyhoeddi’r ymateb pan ddaw i law.”