Fe fydd pobl 16 ac 17 yn cael cofrestru i bleidleisio yn Etholiadau’r Senedd o heddiw (dydd Llun, Mehefin 1).

Mae wedi cael ei ddisgrifio fel “diwrnod pwysig i ddemocratiaeth Cymru” mewn datganiad ar dudalen Trydar Senedd Cymru.

Cyhoeddwyd y byddai pobl 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio ar Dachwedd 27, 2019 yn sgil newid yn Neddf y Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, sef yr estyniad etholfraint mwyaf yng Nghymru ers 1969.

Y tro diwethaf y cafodd yr oedran pleidleisio ei ostwng, o 21 i 18 oed, oedd yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl yn 1969.

“Llais cryfach”

“Bydd rhoi’r hawl i bobl 16 oed bleidleisio yn grymuso ein pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ac yn rhoi llais cryfach iddynt o ran dyfodol ein cenedl,” meddai Llywydd y Senedd, Elin Jones ar Dachwedd 27.

“Mae rhoi’r hawl i bobl ifanc bleidleisio yn 16 oed yn ddatganiad pwerus gan y Senedd ein bod yn gwerthfawrogi eu barn.

“Bydd yn cryfhau ein democratiaeth ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac yn dod ag egni newydd i’n proses ddemocrataidd.”