Mae system olrhain cysylltiadau yn cael ei chyflwyno ledled Cymru wrth i’r mesurau cloi gael eu llacio o heddiw (dydd Llun, Mehefin 1),  yn ôl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

Mi fydd aelod o’r tîm olrhain cysylltiadau’n  cysylltu hefo unrhyw un sydd â chanlyniad prawf coronafeirws cadarnhaol ac yn gofyn am fanylion pawb y maen nhw wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw tra’r oedd ganddyn nhw symptomau.

Mae cysylltiad agos yn golygu unrhyw rai:

  • Y maen nhw wedi bod o fewn 1m iddyn nhw ac wedi cael sgwrs wyneb yn wyneb â nhw, cysylltiad croen i groen â nhw neu wedi pesychu arnyn nhw, neu wedi bod mewn ffurf arall o gysylltiad â nhw am gyfnod o fwy na munud.
  • Y maen nhw wedi bod o fewn 2m iddyn nhw am fwy na 15 munud.
  • Y maen nhw wedi teithio mewn cerbyd gyda nhw neu wedi eistedd yn eu hymyl ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Bydd y tîm yn cysylltu â’r holl gysylltiadau hyn ac yn gofyn iddyn nhw hunan ynysu am 14 diwrnod er mwyn atal lledaeniad y firws ymhellach.

O Fehefin 8, bydd olrhain cysylltiadau yn cael ei gefnogi gan system ar-lein sy’n rhoi’r dewis i bobl ddarparu manylion cysylltiadau agos yn electronig.

“Cydweithrediad pawb”

“Mae’r ehangu heddiw ar yr elfen olrhain cysylltiadau o’n strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn gam arwyddocaol ymlaen yn y symud graddol allan o’r cyfyngiadau symud,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

“Yn ystod y misoedd diwethaf, diolch i help y cyhoedd a’r ffordd maen nhw wedi cadw at y rheolau aros gartref, rydym ni wedi llwyddo i arafu lledaeniad y firws fel ein bod ni heddiw’n gallu llacio’r rheoliadau i alluogi i ffrindiau a theulu gyfarfod eto.

“Mae olrhain cysylltiadau’n ddull sydd wedi’i brofi o ddod ag achosion o glefydau heintus o dan reolaeth ac rydym ni’n gobeithio y bydd yn gwneud yr un peth gyda’r coronafirws – ond er mwyn i hyn fod yn llwyddiannus, rhaid i ni gael help a chydweithrediad pawb i rannu manylion am eu symudiadau a’u cysylltiadau.

“Hefyd rhaid i bobl hunan ynysu os ydynt yn wynebu risg.

“Mae’r cyngor gwyddonol yn glir – mae arnom ni angen cael system olrhain cysylltiadau yn ei lle cyn i ni ddechrau codi’r cyfyngiadau ymhellach.”

Mae byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn cydweithio i olrhain cysylltiadau.

Mae’r system wedi cael ei threialu yn ardal pedwar bwrdd iechyd yn ystod y pythefnos diwethaf ac mae mwy na 600 o unigolion sy’n olrhain cysylltiadau wedi cael eu cyflogi hyd yma.

Mae’r nifer yma’n debygol o godi wrth i’r system gael ei hehangu yn ôl y Llywodraeth.

Mae’r capasiti profi wedi cael ei gynyddu i gefnogi olrhain cysylltiadau a gellir archebu profion cartref a phrofion yn y canolfannau gyrru drwodd ar gyfer gweithwyr allweddol a’r cyhoedd ar-lein.

Llacio

O heddiw, Mehefin 1,  bydd pobl o ddwy aelwyd yn gallu cwrdd yn yr awyr agored ar yr amod nad ydyn nhw’n teithio mwy na phum milltir ac yn parchu ymbellhau cymdeithasol.

Bydd y rhai sydd wedi bod yn ynysu yn gallu ymarfer yn yr awyr agored am y tro cyntaf ers i’r cyfyngiadau ddod i rym.

Byddan nhw hefyd yn gallu cwrdd â phobl o aelwyd arall, ond rhaid iddyn nhw beidio â mynd i mewn i dŷ arall neu rannu bwyd.

Ddydd Sul, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 11 o bobl eraill wedi marw ar ôl profi’n bositif am Covid-19, gan ddod â chyfanswm nifer y marwolaethau yn y wlad i 1,342.

Profodd 82 o bobl eraill yn gadarnhaol ar gyfer coronafirws, gan ddod â nifer yr achosion a gadarnhawyd yng Nghymru i 13,995.

Ffigurau diweddaraf

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (dydd Llun, 1 Mehefin) fod pum person arall wedi marw ar ôl profi’n bositif am y coronafeirws, gan fynd â chyfanswm nifer y marwolaethau yng Nghymru i 1,347.

Mae 59 o bobl eraill wedi profi’n bositif am Covid-19, sef y nifer isaf ers 20 Mawrth. Daw hyn â chyfanswm nifer yr achosion a gadarnhawyd yn y wlad i 14,054.