Mae 11 yn rhagor o bobol wedi marw yn sgil y coronafeirws yng Nghymru, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’n golygu bod 1,342 o bobol bellach wedi marw yma ers dechrau’r ymlediad.

Cafodd 82 o achosion newydd eu hadrodd, gan fynd â’r cyfanswm i 13,995.