Mae gwraig yn ei 60au wedi boddi ar ôl iddi syrthio i’r afon wrth Bont Aberglaslyn ger Beddgelert yng Ngwynedd.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r safle am 11.23am heddiw a bu’r gwasanaethau brys a hofrenydd yr heddlu yn chwilio’r ardal.

Ond am hanner dydd cafwyd hyd i gorff y ddynes yn y dŵr.

Dyw’r heddlu ddim yn trin ei marwolaeth fel un amheus ac mae’r crwner wedi ei hysbysu.

Dyw’r heddlu ddim wedi cyhoeddi enw’r ddynes ar hyn o bryd.