Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth am ddynes 18 oed sydd ar goll o Gaerfyrddin ers dydd Gwener (Mai 29).

Mae Gabrielle Wheaton yn 5’8” ac o gorffolaeth denau.

Mae ganddi wallt du hir ac mae lle i gredu ei bod hi’n gwisgo crys T CK lliw du, siorts denim glas golau, gwregys â diemwntiau ac esgidiau Vans du pan gafodd hi ei gweld ddiwethaf.

Mae ganddi gysylltiadau ag ardaloedd Caerdydd a Bryste, ac mae’n bosib ei bod hi wedi teithio i un o’r llefydd hynny.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.