Mae astudiaeth gan Wasanaeth Gwaed Cymru’n awgrymu bod 2.6% o bobol yng Nghymru wedi datblygu gwrthgyrff ar ôl cael eu heintio â’r coronafeirws.

Mae’r arolwg yn seiliedig ar 1,006 o samplau oedolion ac mae ymgynghorwyr ar ran Llywodraeth Cymru’n dweud bod angen ehangu’r arolwg i gynnwys mwy o bobol.

Yr awgrym ar hyn o bryd yw nad yw 35% o bobol sy’n cael eu heintio’n cael unrhyw symptomau ac felly, mae’r awdurdodau’n rhybuddio bod golchi dwylo a chadw pellter oddi wrth bobol eraill yn dal yn bwysig iawn.

Yn ôl arolwg tebyg gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, rhywle rhwng 13% ac 17.4% yw’r ffigwr cyfatebol yn Llundain.

Daw’r adroddiad wrth i Gymru baratoi ar gyfer y cyfres nesaf o gyfyngiadau yfory (dydd Llun, Mehefin 1), pan fydd modd i aelodau o ddau gartref gyfarfod yn yr awyr agored ar yr amod nad ydyn nhw’n teithio mwy na phum milltir ac yn cadw at reolau pellter cymdeithasol.

Mae lle i gredu bod perygl isel o heintio pobol eraill yn yr awyr agored o gadw pellter cymdeithasol.

Dim ond am ychydig funudau mae’r feirws yn byw mewn heulwen, ond fe all oroesi am rai oriau ar arwyneb dan do.

Adroddiad

Yn ôl yr adroddiad, mae gan blant yr un tebygolrwydd o gael eu heintio ag oedolion, ond maen nhw’n cael llai o symptomau.

Mae’n rhybuddio na ddylid gwneud gormod o newidiadau i’r cyfyngiadau ymbellháu cymdeithasol oni bai bod system olrhain gadarn yn ei lle.

Ac mae’n rhybuddio ymhellach y dylid bod yn ofalus wrth gysylltu aelodau o ddau dŷ.

Mae data’n awgrymu bod 70% o bobol yng Nghymru’n cadw at reolau ymbellháu cymdeithasol.

Mae 8% o wlâu yn ysbytai Cymru’n cael eu defnyddio gan gleifion coronafeirws ar hyn o bryd, a 6% arall ar gyfer achosion posib.